Cod y Modiwl | DD31020 | ||
Teitl y Modiwl | THEATR Y GORLLEWIN: PRYDAIN AC IWERDDON | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mrs Anwen Jones, Dr Roger Owen | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 11 x 2 awr | |
Dulliau Asesu | Traethodau | TRAETHAWD (3000) | 40% |
Arholiad | 2 Awr ARHOLIAD (2 AWR) | 60% |
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn astudio agweddau ar y theatr ym Mhrydain ac Iwerddon dros gyfnod eang iawn, fel modd o archwilio`r newid sylweddol a welwyd yn theatr a llenyddiaeth ddramataidd y nail wlad a`r llall yn ystod yr Ugeinfed ganrif. Astudir y patrymau cymdeithasol a ffurfiodd theatr a drama y gwledydd o dan sylw.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- deall rhai i`r ffactorau gwleidyddol, masnachol ac artistig sydd wedi effeithio ar ddramodywr yn Lloegr ac Iwerddon yn ystod yr Ugeinfed ganrif
- trin theatr Iwerddon a Lloegr fel modd o gyfleu profiad dychmygol yr unigolyn
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- llunio trafodaeth gytbwys o`r berthynas rhwng yr elfennau cyndeithasol a`r elfennau artistig o fewn gwaith unrhyw un o`r dramodwyr a astudiwyd
- cymhwyso`r wybodaeth a gyflwynir yn y sesiynau dysgu wrth geisio tafoli dylanwad a gwerth y dramau a astudiwyd
- ymatbe yn gryno a hyblyg i gwestiynua ynglyn a thechneg dramataidd y dramodwy a astudiwyd, gan sylwi`n arbennig i ba raddau y mae gweledigaeth y cyfyrw ddramodwyr yn gynnyrch eu cymdeithas, ac i ba raddau y mae`n gwrthdaro a`u cymdeithas