Cod y Modiwl | DD31720 | ||
Teitl y Modiwl | PERFFORMIO 2 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Donna Lewis | ||
Semester | Semester 2 | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Cyd-Ofynion | DD21520 , DD31620 | ||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | 5 Awr 8 x 2 awr + tua 120 awr cyswyllt | |
Dulliau Asesu | Cyflwyniad | Chyfraniad ir broses ymarfer a pherfformio | 70% |
Adroddiad Ymarferol | Nodiadau ymarfer ac ymchwil | 30% |
Yn y modiwl hwn rhoddir y cyfle i chi ymarfer eich arbenigedd yn y maes perfformio i lefel ddatblygiedig. Canolbwyntir ar waith unigol yn y modiwl hwn, gan roi cyfle i chi grue sgor perfformio manwl, a chymeriad cymhleth, yn seiliedig ar fethodau neilltuol. Archwilir y cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesir y berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni`r canlynol:
- paratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eich rol
- adfyfyrio a dadansoddi eich gwaith creadigol i safon uchel
- archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon cyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- amlygu eu gallu i gyfansoddi sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
- arddangos eu cyfrifoldeb personol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformidau, ac amlygu eu bod yn deall gofynion yn broses greu
- arddangos eu hynwybyddiaeth o`r berthynas anatod rhwng hyfforddiant a pperfformiad, o safbwynt eu hymarfer a`u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnna
- cyd-weithio a chyfrannogi fel perfformiwr yn unigol ac o fewn y grwp, gan amlygu gallu corfforol a lleisiol datblygiedig