| Cod y Modiwl | DD32920 | ||
| Teitl y Modiwl | THEORI CYFARWYDDO | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Donna Lewis | ||
| Semester | Semester 1 | ||
| Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 11 Awr 10 x 1 awr darlith/seminar | |
| Sesiwn Ymarferol | 10 Awr 10 x 2 awr gweithdy | ||
| Dulliau Asesu | Gwaith arddangosfa | ARDDANGOSIAD YMARFEROL | 50% |
| Traethodau | TRAETHAWD (2500) | 50% | |
Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir rhai o egwyddorion sylfaenol y grefft o gyfarwyddo ar gyfer y theatr. Yn y sesiynau dysgu, archwilir datblygiad a thwf y cysyniad o gyfarwyddo ar hyd yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio ar ddulliau o ddarllen a dehongli drama ar gyfer perfformiad. Trafodir y berthynas rhwng y Cyfarwyddyd a`r Dylunydd, a threfnir sesiynau ymarferol pryd y gall myfyrwyr weithio ac arbrofi ar ddarnau o destunau wedi`u dethol o gyfnodau gwahanol.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- dyfnhau eich dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, y penderfyniadau, a`r ystod o bosibiliadau sydd ar agor i`r Cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`e berfformio
- cwestiynu rol y sawl sy`n gyfrifol am greu a chlynnu theatr gyfoes
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, a`r ystod o bosibiliadau ar geal i`r cyfarwyddwr wrth ddehongli testun i`w berfformio
- traethu ar ddatblygiad a thwf y cysyniad a`r ymarfer o gyfarwyddo yn y Theatr Orllweinol ar hyd yr ugeinfed ganrif hyd heddiw
- dangos eu bod yn gyfrifol am eu gwaith creadigol eu hunain ac amlygu ymwybyddiaeth feirniadol o`r gwaith hwnnw mewn trafodaethau
- amlygu, drwy waith ymarferol, eu hymwybyddiaeth o ddulliau cyfarwyddo amrywiol a perthynas y cyfryw ddulliau a gwahanol fathau o theatr