Cod y Modiwl DD33410  
Teitl y Modiwl DADANSODDI PERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Mike Pearson  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 10 x 1 awr  
  Sesiwn Ymarferol   3 Awr 3 x 3 awr  
Dulliau Asesu Cyflwyniad gr p   CYFLWYNIAD YMARFEROL (30 MUN)   50%  
  Sylwebaeth lafar   SYLWEBAETH (3000)   50%  

Disgrifiad cyffredinol


Disgrifiad Byr:


Yn y modiwl hwn fe`ch cyflwynir i rai o egwyddorion theori Perfformio, ac i`r broses o ddyfeisio a dogfennu gwaith grwp. Fe fydd y darlithoedd, a draddodir yn ystod y pum wythnos cyntaf o`r cwrs, yn dadansoddi`r syniad o berfformio, ac yn ystyried pa rol yn union sydd i berfformio mewn cyflwyniad theatraidd yn ogystal ag mewn nifer o ddulliau perfformiadol eraill nad ydynt o redirwydd yn deillio o`r theatr. Ochr yn ochr a`r darlithoedd hyn, fe gyflwynir cyfres o ddosbarthiadau ymarferol, lle byddwch yn datblygu `geirfa` gorfforol a fydd o ddefnydd wrth gyflwyno proesiect ymarferol ar ddiwedd y semester.


Prif Nodau`r Cwrs:


Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:


- gwerthfawrogi deinameg cynhenid perfformio, y tu fewn a`r tu allan i theatr
- cyfuno dealltwriaeth theoretig ac ymarferol berfformio trwy gyflwyno prosiect ymarferol
- deall sut y mae perfformiad yn newid yn ol ei gyd-destun gofodol, amserol a chymdeithasol


Allbynnau Dysg:


Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:


- cymhwyso`r termau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi darn o berfformiad
- sylwebu`n gryno a deallus ar ddarn o berfformiad
- cymhwyso`r technegau corerograffig a gyflwynir yn y sesiynau ymarferol wrth baratoi cyflwyniad ymarferol
- cyd-weithio mewn grwp at nod a bennir gan ei cyd-aelodau

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Hanfodol
Schechner, R. (1988) Performance Theory. Routledge
Kumiega, J. (1985) The Theatre of Grotowski. Methuen
Kumiega, J. (1985) The Theatre of Grotowski. Methuen

Erthygl
Pearson, Mike. (1997) Special Worlds, Secret Maps; a Poetics of Performance in Staging Wales - ed.Anna-Marie Taylor. Gwasg Prifysgol Cymru