Cod y Modiwl DD33720  
Teitl y Modiwl AMGYLCHFYD Y CYNHYRCHIAD  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Donna Lewis  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr Graham Laker, Yr Athro Mike Pearson  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Cyd-Ofynion DD21520 a/neu DD23310  
Elfennau Anghymharus I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 10 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   3 Awr 3 x 1 awr  
    Placement 7-14 days  
Dulliau Asesu Traethodau   TRAETHAWD HIR (10,000)   100%  

Disgrifiad cryno


Disgrifiad Byr:


Mae`r modiwl yn galluogi myfyrwyr Anrhydedd Sengl i fyfyrio ar, a dadansoddi eu profiad o`r gwaith ymarferol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod eu hail semester. Rhoddir gyfle i fyfyrwyr fynd at gwmni proffesiynol am gyfnod o wythnos i bythefnos gan arsylwi ar eu gwaith. Bydd disgwyl iddynt gadw cofnod manwl o`u profiadau ar ffurf ysgrifenedig.
Gall y traethawd gyfeirio at waith perfformio, cyfarwyddo neu ddylunio a ddilynwyd yn y modiwlau canlynol: Dadnsoddi P[erfformio, Cyflwyniad i Berfformio, Cyflwyniad i Ddylunio. Hefyd, yn amlwg, fe all y traethawd ddadansoddi`r broses o greu cynhyrchaid neu o weithio gyda chwmni proffesiynol mewn rhyw fodd. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn strwythuro traethawd hir yn drefnus, yn cymhwyso a chyfathrebu gwybodaeth a phrofiad personol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn archwilio cores-doriad o gysyniadau sy`n ymwneud a meysydd penodol y gwahanol fodiwlau ymarferol a`r profiad galwedigaethol.


Prif Nodau`r Cwrs:


Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:


- ol-fyfyrio ar yr holl waith ymarferol a gylfwynwyd gennych yn yr Adran
- ennill profiad ymarferol o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- cymharu`r profiad proffesiynol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd


Allbynnau Dysg:


Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:


- dadansoddi eu profiad ymarferol gan werthuso`r gwaith a gyflawnwyd ganddynt
- dangod iddynt feithrin methodoleg dadansoddiadol sy`n gynwys ar gyfer ymdrin a`u profiadau ymarferol
- gwerthuso`r sgiliau ymarferol a brofwyd ganddynt yn yr ail flwyddyn, a`u cymhwyso i`r drafodaeth ar y gwaith a gyflawnwyd yn eu cyfnod arsylwi gyda chwmni proffesiynol
- ymateb yn feirniadol i`r gwaith ymarferol a gyflawnwyd ganddynt gan amlygu hynny mewn traethawd hir
- datblygu eu hymwybyddiaeth o theatr ymarferol yn gysyniadol drwy gyfrwng traethawd hir

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Hanfodol
Marowitz, Charles. (1978) The Act of Being: Towards a Theory of Acting. Secker and Warnurg
McAuley, Gay (gol.). (1986) The Documentation and Notation of Theatrical Performance. Sydney Association for Studies in Society and Culture
Kirby, M (gol.). (1974) The New Theatre:Performance Documentation. New York University Press

Erthygl
Pearson, M & Thomas, J. (1994) `Theatre/Archaeology` yn The Drama Review. Rhifyn T-4