Cod y Modiwl DD33920  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN AMGUEDDFEYDD  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Donna Lewis  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Cyd-Ofynion DD21520  
Elfennau Anghymharus I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 10 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 10 x 1 awr  
  Sesiwn Ymarferol   Prosiect ymarferol  
Dulliau Asesu Adroddiad gwerthuso   Cofnod ysgrifenedig or gwaith archwilio a pharatoi   10%  
  Traethodau   2,500 o eiriau   40%  
  Gwaith prosiect   Prosiect ymarferol (ymchwil, dyfeisio, ymarfer a pherfformio)   50%  

Disgrifiad cryno


Disgrifiad Byr:


Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir astudiaeth o Theatr mewn Amgueddfeydd ynd Nghymru. Byddwch yn mynychu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu`r prosiect hwnnw, byddwch yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru, yn bennaf Amgueddfa Werin Cymru, er y gallai`r prosiect ymarferol ddigwydd mewn unrhyw un o`r amgueddfeydd hyn (e.e. Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd, yr Amgueddfa Werin, yr Amgueddfa Diwydiant a Mor, Amgueddfa Diwydiant Glwan Cymru, Amgueddfa Llechi Llanberis). Edrychir yn arbennig ar waith mewn lleoliad arbennig (e.e. Llancaiach Fawr, Pentre Canoloesol Cosmeston), y deunydd a ddehonglir a perthynas y perfformwyr/dehonglwyr a`r gynulleidfa/ymwelwyr. Yn ystod cyfnod prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymwchiwilo a chrew eu gwaith gan gadw cofnod o`r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.


Prif Nodau`r Cwrs:


Ein nod wrth gyflwyno`r modwil hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:


- olfyfyrio ar yr holl waith ymarferol a gyflwynwyd gennych yn yr Adran
- ennill profiad ymarferol o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- cymharu`r profiad proffesiynnol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd


Allbynnau Dysg:


Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriw/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:


- dadansoddi eu profiad ymarferol gan werthuso`r gwaith a gyflawnwyd ganddynt
- dangos iddynt feithrin methodoleg dadansoddiadol sy`n gymwys ar gyfer ymdrin a`u profiadau ymarferol
- gwerthuso`r sgiliau ymarferol a brofwyd ganddynt yn yr ail flwyddyn, a`u cymhwyso i`r drafodaeth ar y gwaith a gyflawnwyd yn eu cyfnod arsylwi gyda chwmni proffesiynnol
- ymateb yn feirniadol i`r gwaith ymarferol a gyflawnwyd ganddynt gan amlygu henny mewn traethawd hir
- datblygy eu hymwybyddiaeth o theatr ymarferol yn gysyniadol drwy gyfrwng traethaed hir

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Hanfodol
Alexander, Edward P.. (1980) Museums In Motion. AASLH
Anderson, Jay. (1984) Time Machines: The World of Living History. AASLH
Anderson, Jay. (1984) The Living History Sourcebook. AASLH
Benson, Susan Porter, Stephen Brier and Rosenzweig (eds.). (1986) Presenting The Past. Temple University Press