Cod y Modiwl | DD39020 | ||
Teitl y Modiwl | DRAMA AMERICANAIDD | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Hazel Davies | ||
Semester | Semester 2 | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 2 hours | |
Dulliau Asesu | Traethodau | 3,000 o eiriau | 40% |
Arholiad | 3 Awr | 60% |
Y mae`r modiwl hwn yn archwilio natur a datblygiad Theatr Americanaidd yr ugeinfed ganrif drwy astudio`n fanwl ddetholiad o ddramau gan Eugene O`Neill, Tennessee Williams, Arthur Miller, Edward Albee, David Mamet a Sam Shepherd. Bydd y cwrs hefyd yn ymdrin a chyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol a theatrig y dramau a dadansoddi rol ganolig y Freuddwyd Americanaidd yn y testunau gosod. Bydd y prif bwyslais ar natur theatraidd y testun.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- astudio drama Americanaidd yr ugeinfed ganrif gan roi sylw arbennig i`w gyd-destun hanesyddol, cymdeithasol, gwleidyddol a theatraidd
- archwilio confensiynau llwyfannu gwreiddio y testunau gosod ac ymateb cynulleidfaoedd cyfoes iddynt
- trafod, gwerthuso a chymharu theatr brif-ffrwd a theatr amgen yn America, ac asesu cyfraniad a dylanwad y theatrau hyn
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cyflwyno dealltwriaeth gytbwys o briodoleddau theatraidd y testunau gosod
- gosod y testunau hynny yn eu cy-destun theatraidd, ahensyddol a gwleidyddol priodol
- ymateb yn ddeallus i`r pynciau a drafodir yn y dosbarthiadau