Cod y Modiwl | FF20130 | ||
Teitl y Modiwl | YR IAITH FFRANGEG | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Emyr Jones | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Rhagofynion | (Fel rheol) cymhwyster mynediad i Lefel 2 Ffrangeg | ||
Elfennau Anghymharus | FR20130 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 60 Awr 60 awr o ddosbarthiadau iaith | |
Dulliau Asesu | Adroddiad sector gr p | 30% | |
Asesiad parhaus | Gwaith ysgrifenedig (30%) Llafar - asesiad parhaus (10%) | 40% | |
Arholiad | 3 Awr Papurau arholiad ysgrifenedig, 2 x 2 awr | 30% |
Dysgu sgiliau llafar a chlywedol yn Ffrangeg, gan gynnwys ymarfer sgwrsio; cyflwyno exposes wedi eu paratoi yn Ffrangeg; trafod a dadlau am bynciau cyfamserol.
Bydd y dosbarth wythnosol cyntaf a'r gwaith sy'n deillio ohono yn canolbwyntio ar ddarllen, ysgrifennu a gwrando yn Ffrangeg. Fe'i seilir ar y llyfr French Grammar in Context (M Jubb a A. Rouxeville). Yn bennaf, cyfieithu gramadegol i'r Ffrangeg, sgiliau hanfodol ysgrifennu traethawd, ac ymarferion darllen a deall fydd y gwaith. Y nod fydd eich hyfforddi yn y dasg galed o gyfieithu'n gywir o nifer o strwythurau anodd yn Saesneg i'r iaith darged; i gyflwyno achos wedi ei baratoi'n dda; i adfer a chyfuno gwybodaeth yn gryno. Rhoddir pwyslais ar weithio'n effeithiol yn yr iaith darged drwy ddatblygu sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad yn Ffrangeg. Cynhelir rhai dosbarthiadau yn Ffrangeg a disgwylir i chithau gymryd rhan yn Ffrangeg.
Dosbarth llafar o sgwrsio gyda siaradwr brodorol yw'r ail ddosbarth wythnosol.
Treulir dosbarth o awr bob pythefnos yn rhoi sylw i agweddau cyfoes ar Ffrainc a'r gymdeithas Ffrengig gan ddefnyddio cyfryngau clyweled. Bydd myfyrwyr yn gwylio rhaglen ddogfen un wythnos ac yna cant eu rhannu i grwpiau llai ar gyfer dadansoddi iaith a thrafod materion sy'n berthnasol i'r hyn a welwyd. Caiff cyfran o'r asesiad parhaus ei seilio ar gyflwyniadau grwp yn Ffrangeg.
Gosodir gwaith ysgrifenedig yn rheolaidd a rhaid ei gyflwyno mewn pryd. Fel chi, mae eich tiwtor yn gweithio i amserlenni tynn, ac ni all dderbyn gwaith hwyr. Mae marciau am waith i'w asesu yn mynd tuag at ganlyniad eich gradd, ac os byddwch yn methu a chyflwyno gwaith ar y dyddiad penodedig bydd hyn yn tynnu eich marciau am y modiwl i lawr.
- gweld trosoch eich hun cymaint mwy o eirfa a gramadeg Ffrangeg a wyddoch wrth ysgrifennu a siarad
- gwahaniaethu rhwng prif lefelau arddull yn Ffrangeg
- adnabod a deall gwahanol gyweiriau ieithyddol yn Ffrangeg
- cyfieithu darnau Ffrangeg dethol sy'n cynnwys arddull a phriod-ddulliau dilys a defnydd cywir o ramadeg
- paratoi a chyflwyno darn o waith llafar neu ysgrifenedig yn Ffrangeg
- trin a thrafod materion cyfoes mewn Ffrangeg
- crynhoi yn eich geiriau'ch hun ddarnau dethol o Ffrangeg llafar neu ysgrifenedig
- cyflwyno'ch golwg eich hun ar fywyd a diwylliant cyfoes Ffrainc
- cymryd rhan wrth chwarae rol mewn Ffrangeg
- cynnal sgwrs mewn Ffrangeg gan fod yn hyderus yn eich gallu i'ch mynegi eich hun.
Y mae aseiniadau gwaith cartref a phrofion yn y dosbarth yn rhan hanfodol o fframwaith modiwlau iaith, yn ogystal a'r arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn. Cynlluniwyd yr holl ddulliau asesu i fesur eich cynnydd o'i gymharu a'r canlyniadau dysgu ar y lefel briodol.