Cod y Modiwl FT10720  
Teitl y Modiwl DEHONGLI'R GWELEDOL: CYMRU AR Y SGRIN  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Jamie Medhurst  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DD10520  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr  
  Seminarau   10 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   Traethawd 2500 o eiriau   60%  
  Arholiad   2 Awr   40%  

Disgrifiad cyffredinol


Amcanion:


Nod yr Adran wrth cyflwyno'r modiwl hwn yw:
Datblygu ymwybyddiaeth o'r ffyrdd y cynrychiolir Cymru a Chymreictod trwy gyfrwng y ddelwedd symudol.
Trafod yr ymwybyddiaeth hon wrth gyfeirio at raglenni teledu a ffilmiau penodol.
Datblygu sgiliau dadansoddol a dehongliadol sy'n ymwneud a'r ddelwedd symudol gan gynnwys y gallu i 'ddarllen' yr hyn a gyflwynir.
Sicrhau bod myfyrwyr yn darllen y testunau hyn fel cynnyrch cyd-destun diwylliannol


Canlyniadau Dysgu:


Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Dadansoddi testun gweledol yn feirniadol.
Trafod y testunau hyn yn ysgrifenedig (yn yr aseiniadau) ac ar lafar (mewn seminarau)
Trafod y testunau gweledol yn eu cyd-destun diwylliannol ehangach.


Cynnwys:


Amcan y modiwl hwn yw adeiladu ar yr hyn a drafodwyd yn y modiwl sgiliau craidd yn Semester 1, a hynny trwy ganolbwyntio ar y ffordd y mae'r gweledol yn creu ac yn adlewyrchu Cymru ar y sgrin fach. Fe fydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau yn ymwneud a darllen y testun gweledol a hynny oddi mewn i gyd-destun a fframwaith ddiwylliannol ehangach.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Hanfodol
Davies, John. (1994) Broadcasting and the BBC in Wales. Gwasg Prifysgol Cymru
** Argymhellir - Cefndir
Berry, Dave. (1994) Wales and Cineam: The First Hundred Years. Gwasg Prifysgol Cymru
Fiske, John & Hartley, John. (1978) Reading Television. Routledge
Lord, Peter. (2000) Delweddau'r Genedl. Gwasg Prifysgol Cymru
Monaco, J. (2000) How to Read a Film: The Art, Technology, Language, History and Theories of Film and Media. OUP
Ryan, Michelle. (1986) 'Blocking the Channels: TV and Film in Wales', The Imagined Nation - Essays. Poetry Wales Press
Turner, Graeme. (1999) Film as Social Practice. 3ydd. Routledge
Osmond, John. (1985) The National Question Again: Welsh Political Identity in the 1980s. Gomer
Medhurst, Jamie. (1998) 'The Media in Twentieth Century Wales' yn A Nation and its Books. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Jones, R Gerallt. (1989) Seicoleg Cardota. Barddas
Burton, Graeme. (2000) Talking Television: An Introduction to the Study of Television. Arnold