Cod y Modiwl GC10720  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WYDDELEG MODERN A'I LLENYDDIAETH 2  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2  
Rhagofynion GC10620  
Elfennau Anghymharus IR11220 , IR10710  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr 33 awr (3 gwers yr wythnos)  
Dulliau Asesu Adroddiad sector gr p     10%  
  Asesiad parhaus     20%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Disgrifiad cryno


Cyflwynir teithi sylfaenol Gwyddeleg Modern gan bwysleisio ynganiad Conamara, yn ogystal â chyflwyno llenyddiaeth yr 20g

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr genidol.


2. Byddwch yn gallu defnyddio ffurfiau personol ar yr arddodiaid.


3. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf 'bod' yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol arferiadol, yr amser gorffennol arferiadol, a'r modd amodol.


4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol arferiadol, yr amser dyfodol, a'r modd amodol.


5. Byddwch yn gallu defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair.


6. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs fwy estynedig yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.


7. Byddwch yn gwybod am rai o lenorion pwysig yr Wyddeleg yn ystod yr ugeinfed ganrif.