Cod y Modiwl GC20720  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WYDDELEG MODERN A'I LLENYDDIAETH II  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2  

Disgrifiad cryno


Parhau i ddysgu sylfaen gramadeg a chystrawen Gwyddeleg, gyda phwyslais ar ynganiad a morffoleg iaith lafar Conamara.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr genidol.


2. Byddwch yn gallu defnyddio ffurfiau personol ar yr arddodiaid.


3. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf 'bod' yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol arferiadol, yr amser gorffennol arferiadol, a'r modd amodol.


4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol arferiadol, yr amser dyfodol, a'r modd amodol.


5. Byddwch yn gallu defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair.


6. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs fwy estynedig yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.


7. Byddwch yn gwybod am rai o lenorion pwysig yr Wyddeleg yn ystod yr ugeinfed ganrif.