Cod y Modiwl GC32410  
Teitl y Modiwl GWYDDELEG MODERN CYNNAR (IAITH A LLÊN) 3+4  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr William Mahon  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion GC22010  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   Traethawd/Ymarferion   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Parhad o Gwyddeleg Canol a Gwyddeleg Modern Cynnar I a II.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn yn llwyddiannus:


1. Byddwch wedi darllen detholiadau o destun rhyddiaith pwysig a chynrychiadol o'r cyfnod (yn arferol, Foras Feasa ar Eirinn gan Seathrun Ceitinn).


2. Byddwch wedi darllen detholiad cynrychiadol o farddoniaeth sillafol.


3. Byddwch yn gallu trafod cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, a llenyddol y testun detholedig, yn ogystal â thechneg naratif yr awdur.


4. Byddwch yn gallu adnabod y nodweddion sydd yn gwahaniaethu testun Gwyddeleg Modern Cynnar oddi wrth destunau o gyfnodau eraill.


5. Byddwch yn gallu gwahaniaethu rhwng barddoniaeth farddol yn y mesurau caeth a dulliau llacach lle defnyddir mesurau sillafog a'r dulliau acennol poblogaidd.


6. Byddwch yn gallu trafod rôl gymdeithasol y bardd.