Cod y Modiwl GC32720  
Teitl y Modiwl GAELEG YR ALBAN  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion GC10110/R10110 GC10410/R10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   44 Awr  
Dulliau Asesu Traethodau   ymarferion   25%  
  Arholiad   2 Awr   75%  

Disgrifiad cryno


Cyflwyniad i brif nodweddion yr iaith fodern ynghyd ag astudiaeth o rai gweithiau llenyddol, megis storiau byrion a cherddi cyfoes.

Canlyniadau dysgu


Ar ôl dilyn y modiwl hwn:


1. Byddwch yn gallu adnabod a defnyddio'r rhan fwyaf o bwyntiau gramadegol a chystrawennol Gaeleg yr Alban.


2. Byddwch yn gallu darllen gyda chymorth geiriadur amryw ddarnau rhyddiaith yng Ngaeleg yr Alban.


3. Byddwch yn gyfarwydd â rhai agweddau ar draddodiadau llafar Gaeleg yr Alban.


4. Byddwch yn gallu cyfieithu brawddegau i'r Gaeleg.


5. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yng Ngaeleg yr Alban.