Cod y Modiwl GF10110  
Teitl y Modiwl Y GYFUNDREFN GYFREITHIOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys Williams  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr Yn Saesneg  
  Seminarau   4 Awr Yn Gymraeg  
Exemptionau Professionalau Dim yn angenrheidiol i Bwrpas Proffesiynol  

Disgrifiad cryno


Maer cwrs yn ystyried patrwm y gyfundrefn gyfreithiol a dulliau gweithio cyfreithwyr. Dadansoddir yn fanwl rol y farnwriaeth a dehongli deddfwriaeth, a datblygiad cyfraith achosion. Ystyrir dulliau o dorri dadl trwy edrych ar y broses ymgyfreithio ffurfiol. Bydd y cwrs hefyd yn bwrw golwg dros faterion ehangach rhwyddineb cael cyfiawnder, gan gynnwys cymorth cyfreithiol. Rhoddir braslun or gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith oherwydd pwysigrwydd hyn i astudiaethau cyfreithiol yn gyffredinol. Ystyrir patrwm trefn y llysoedd a rol proffesiwn y gyfraith. Ni fyddai cwrs fel hwn yn gyflawn heb gyflwyno datblygiad hanesyddol y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Rhoddir hyn a phwyslais arbennig ar dwf y gyfraith gyffredin ac ecwiti. Amcan y cwrs yw cynnig dealltwriaeth drylwyr o amgylchfyd gwaith y gyfraith, a hefyd sylweddoli mai pwnc deinamig syn newid yn gyson ywr gyfraith, ac nid yn gorff disyflyd o reolau yn unig sydd iw dysgu ar gof. Bydd deall materion megis cynsail farnwrol ar dulliau a ddefnyddir gan y farnwriaeth i ddehongli statudau yn fuddiol iawn i fyfyrwyr wrth wynebu pynciau fel y gyfraith droseddol neu gyfraith tir.

Nod


Amcan y modiwl hwn yw cynnig dealltwriaeth o batrwm, datblygiad hanesyddol a dulliau gweithio' r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, fel y bydd myfyrwyr yn medru asesu cyfundrefnau cyfreithiol yn feirniadol.

Canlyniadau dysgu


Dylai myfyrwyr y modiwl hwn fedru deall datblygiad y gyfundrefn gyfreithiol, a medru cynnig sylwadau ar ei nodweddion. Dylent ddeall yn arbennig y defnydd o gynsail farnwrol a?i harwyddocad, a?r berthynas rhwng cynsail ymrwymol a chyfundrefn y llysoedd. Dylai myfyrwyr fedru disgrifio `rheolau? honedig dehongli statudol a chynnig sylwadau arnynt, a gweld sut mae hyn a rol barnwyr wrth ddehongli yn gosod cynsail wrth lunio?r gyfraith. Dylai myfyrwyr ddeall yr anawsterau sydd yngl?n a sicrhau rhwyddineb cael cyfiawnder, a rol y proffesiwn cyfreithiol a?r rheithgor.   


Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o?r canlynol:
- seiliau damcaniaethol y gyfraith
? yr amgylchfyd cyfreithiol


Datblygir sgiliau dadansoddi ynghyd a dealltwriaeth o berthnasedd ac amherthnasedd.


O ran sgiliau a rhinweddau eraill, bydd myfyrwyr yn datblygu:
- sgiliau ymchwil annibynnol
- sgiliau llafar ac ysgrifennu
- darllen a dehongli gwybodaeth.

Maes llafur


Maes llafur:


1. Cyflwyniad i?r gyfraith fel pwnc
(i) Astudio?r gyfraith.
(ii) Hanes cryno o ddatblygiad a ffynonellau?r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(iii) Gwahaniaethau a chategor?au?r gyfraith.


2. Braslun o Gyfundrefn y Llysoedd
(i) Patrwm y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Y gyfundrefn apelio sifil a throseddol.
(iii) Diwygiadau a chyflwyniad gan Ddeddf Trefniadaeth Sifil 1997.


3. Cyfraith a Ffaith
(i) Pwysigrwydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith mewn damcaniaeth ac arfer.
(ii) Cymharu cyfundrefnau ymchwiliadol a gwrthwynebiadol.


4. Cyfraith Achosion a Chyfundrefn Cynseiliau
(i) Rol cyfraith achosion yng nghyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr
(ii) Cymharu a chyfundrefnau cyfreithiol eraill.
(iii) Cyfundrefn cynseiliau Lloegr ar waith.
(iv) Cynseiliau yng nghyd-destun Ewrop.   


5. Deddfwriaeth a Dehongliad Statudau
(i) Patrwm mesurau.   
(ii) Y broses ddeddfwriaethol.
(iii) Rheolau dehongliad statudol a chynorthwyon eraill i ddehongli.
(iv) Effaith Deddf Hawliau Dynol 1998.


6. Tribiwnlysoedd a Dulliau Eraill o Ddatrys Anghydfod
(i) Categor?au o dribiwnlysoedd.
(ii) Gwahanol ddulliau o ddatrys anghydfod.   
(iii) Diwygiadau.   


7. Rhwyddineb Cael Cyfiawnder.
(i) Brasolwg o?r hen gyfundrefn Cymorth Cyfreithiol.
(ii) Y ddarpariaeth ariannol newydd; Deddf Mynediad i Gyfiawnder 1999.


8. Y Proffesiwn Cyfreithiol a Rol y Rheithgor yn y Gyfundrefn Gyfreithiol.
(i) Rol y proffesiwn cyfreithiol a?r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Rol y Rheithgor.   

Rhestr Ddarllen

Llyfr
Gweler LA10110.