Cod y Modiwl GF11010  
Teitl y Modiwl PROSES CYFREITHIOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys Williams  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr Yn Saesneg  
  Seminarau   4 Awr Yn Gymraeg  

Disgrifiad cryno


Amcan y modiwl yw paratoi myfyrwyr at eu hastudiaethau eraill yn Y Gyfraith mewn Prifysgol trwy gyflwyno?r amrywiaeth o sgiliau y mae?n rhaid i fyfyrwyr eu meistroli er mwyn llwyddo ynddynt. Mae?r modiwl yn cyflawni hyn trwy gynnig y cyfle i ddatblygu a mireinio?r sgiliau hyn.


YMCHWILIO I?R GYFRAITH
Ar ol esbonio?n gyntaf yr angen i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, mae?r modiwl yn cyflwyno?r syniad o ymchwil gyfreithiol a?i phwysigrwydd sylfaenol i fyfyrwyr a gweithwyr yn y Gyfraith. Cyflwynir Llyfrgell y Gyfraith, a bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo a?i chynllun a?i stoc. Bydd ymarferiad llyfrgell yn gofyn i fyfyrwyr leoli dewis helaeth o ddefnyddiau sy?n berthnasol wrth astudio?r Gyfraith. Trwy hyn bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ymchwilio trwy ddefnyddio `copi caled? (llyfrau, cyfnodolion, adroddiadau yn y gyfraith, gwyddoniaduron ayb) a thrwy ddefnyddio systemau TG. Rhoddir arweiniad arbennig ar ddod o hyd i brif ffynonellau?r gyfraith - ddeddfwriaeth ac adroddiadau?r gyfraith - ar ddod o hyd i lenyddiaeth gyfreithiol academaidd, ac ar gynllunio ymchwil gyfreithiol.   


DARLLEN Y GYFRAITH
Yn ogystal a lleoli?r deunydd cyfreithiol addas, rhaid hefyd ddatblygu?r gallu i ddadansoddi a chymhwyso cynnyrch yr ymchwil. Rhoddir arweiniad ar ddarllen a dadansoddi deddfwriaeth, adroddiadau?r gyfraith, a llenyddiaeth academaidd. Trwy gyfres o ymarferion bydd myfyrwyr yn datblygu?r sgiliau hyn ac yn cael ymateb a rhagor o arweiniad gan y tiwtoriaid. Traethodau cyfreithiol ysgrifenedig ac atebion i broblemau, a thrafod a chyflwyniadau llafar mewn dosbarthiadau fydd y prif ddulliau o ddangos eich gallu i ddarllen a dadansoddi defnyddiau cyfreithiol yn ystod eich astudiaethau. Bydd cyfle yn y modiwl hwn i fyfyrwyr ddatblygu?r sgiliau hyn, yn enwedig ysgrifennu cyfreithiol a datrys problemau.

Nod


Tri amcan sydd i?r modiwl hwn. Y cyntaf yw meithrin gallu myfyrwyr i astudio?r gyfraith yn effeithiol, yn annibynnol ac mewn grwpiau. Yr ail amcan yw sicrhau bod myfyrwyr yn cael ac yn meithrin sgiliau ymchwil yn y gyfraith. Y trydydd amcan yw hybu amrywiaeth o sgiliau cyflwyno a dehongli, sy?n werthfawr wrth astudio?n academaidd ar bob lefel, yn ogystal ag yn y farchnad swyddi ehangach.

Canlyniadau dysgu


Erbyn diwedd y modiwl dylai fyfyrwyr fod wedi datblygu?r sgiliau/galluoedd canlynol:


? Dod o hyd i wybodaeth Gyfreithiol
? Defnyddio dulliau ymchwil electronig a chopi caled
? Defnyddio technoleg gwybodaeth
? Dehongli ffynonellau cyfreithiol sylfaen ac eilaidd


? Sgiliau dadansoddi
? Sgiliau datrys problemau
? Llunio a Chloriannu dadleuon
? Rhesymu Cyfreithiol
? Trefnu syniadau a dadleuon
? Sgiliau beirniadol
? Dulliau Cyfreithiol
? Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ar bapur (ysgrifennu traethodau, ysgrifennu mewn arholiad ac ymryson).

Maes llafur


Maes llafur:


Cyflwyniad
Pwysigrwydd Sgiliau Cyfreithiol


Ymchwilio i?r Gyfraith
Llyfrgell y Gyfraith
Dod o hyd i Ffynonellau Sylfaenol
Dod o hyd i Ffynonellau Eilaidd


Darllen y Gyfraith
Darllen Deddfwriaeth
Darllen Adroddiadau Cyfreithiol
Darllen llenyddiaeth gyfreithiol academaidd


Ysgrifennu Cyfreithiol
Ysgrifennu i wahanol ddibenion cyfreithiol
Ysgrifennu academaidd - adnabod ffynonellau ac awdurdodau

Rhestr Ddarllen

Llyfr
Gweler LA11010.