Cod y Modiwl GF16220  
Teitl y Modiwl CYFRAITH CYFANSODDIADOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys Williams  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   35 Awr Yn Saesneg  
  Seminarau   8 Awr Yn Gymraeg  
Exemptionau Professionalau Yn angenrheidiol at Bwrpas Proffesiynol  

Disgrifiad cryno


Mae?r Deyrnas Unedig yn anarferol yn yr ystyr nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Beth mae hyn yn ei olygu, pam y mae felly, ac a ydyw?n gwneud gwahaniaeth ymarferol, yw rhai o?r cwestiynau y byddwn yn eu hystyried yn y cwrs hwn, sy?n ceisio cyflwyno yr astudiaeth o?r gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyflwyno athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn arbennig.


Mae?n wir bod cyfansoddiad Prydain ar y cyfan wedi datblygu?n raddol, ond nid yw hyn yn golygu na fu newid sydyn a mawr dros y blynyddoedd. Yn wir, cafwyd rhai o?r newidiadau dyfnaf yn gymharol ddiweddar wrth i?r Deyrnas Unedig ymuno a?r Gymuned Ewropeaidd ym 1973. Yn ddiweddarach byth, cafwyd y dadleuon brwd ar ddiwygio T??r Arglwyddi, datganoli, a hawliau dynol. Thema bwysig i?r cwrs yw?r modd y mae?r Cyfansoddiad wedi ymaddasu ac ymdopi ag amgylchiadau sy?n newid. Ystyrir yn fanwl ddeddfwriaeth newydd ar hawliau dynol a datganoli, gan gyfeirio?n arbennig at y Cynulliad Cenedlaethol.


Pwnc pwysig arall a ystyrir gan y cwrs yw?r graddau y mae terfynau i bwerau?r Llywodraeth a?r Senedd. A ydyw?n gywir dweud mewn gwirionedd fod `gan y Senedd yr hawl i wneud unrhyw ddeddf, beth bynnag y bo?? Byddwn yn cymharu cyfansoddiadau gwledydd eraill i weld sut y mae cyfansoddiadau?n ceisio atal y camddefnydd o rym, a byddwn yn ystyried a ydyw sicrwydd tebyg yn bodoli o fewn cyfundrefn Prydain.


Mae?n sicr y bydd myfyrwyr yn gwybod am y ddadl sy?n parhau ar rai sefydliadau yn y cyfansoddiad.   
Sut y dylid diwygio T??r Arglwyddi? Pa rol y dylai?r Frenhiniaeth ei chwarae yn y gyfundrefn gyfansoddiadol? Faint o rym y dylid ei drosglwyddo o San Steffan i?r deddfwrfeydd newydd a ddatganolwyd? Trwy gydol y cwrs byddwn yn ystyried yr agweddau hynny ar y Cyfansoddiad, a fu?n destun yr alwad am newid, a byddwn yn ystyried cynigion diwygio a gyflwynwyd gan amryw gyrff.

Nod


Amcan y modiwl hwn yw
? cyflwyno egwyddorion y gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn arbennig, i fyfyrwyr hyd at lefel sy?n bodloni gofynion eithrio proffesiynol,
? annog meddwl a dadansoddi annibynnol a beirniadol,
? hybu sgiliau gwaith gr?p a
? datblygu sgiliau darllen ac ymchwil annibynnol.

Canlyniadau dysgu


Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:
? Esbonio sut mae cyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod y cynigion am ddiwygio
? Dadansoddi?r gyfundrefn bresennol a chloriannu?r cryfderau a?r gwendidau
? Ymdrin a defnyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddol
? Nodi problemau yn y gyfundrefn gyfansoddiadol, a chymhwyso eu gwybodaeth i awgrymu atebion posibl (e.e. gan gyfeirio at ddeunydd cymharol)
? Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn awgrymu canlyniadau posibl i achosion
? Nodi a gwerthfawrogi y goblygiadau i?r gyfraith gyfansoddiadol yn sgil datblygiadau cyffredinol yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, a deall y berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaid/Ryngwladol, yn ogystal a?r gydberthynas rhwng elfennau canolog a datganoledig yn y cyfansoddiad.


Asesir y canlyniadau dysgu hyn trwy arholiad ac aseiniad gwaith ysgrifenedig, a fydd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau traethawd a phroblemau, a byddant yn golygu ymdrin a defnyddiau sylfaenol y cyfansoddiad.


Yn ogystal a?r sgiliau deallusol hyn, bydd myfyrwyr yn medru dangos:
? Sgiliau da wrth reoli amser er mwyn paratoi at seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
? Y gallu i gyflawni ymchwil annibynnol y rhoddir cydnabyddiaeth amdano yn yr asesiadau
? Canfod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar glawr ac ar ffurf electronig. Bydd y seminarau?n gofyn am baratoi defnyddiau o wefannau
? Y gallu i weithio mewn grwpiau - cynhelir hanner y seminarau ar ffurf gweithdai, lle bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bychain ac yn trefnu cyflwyniad byr ar y cyd.

Maes llafur


Maes Llafur


1. Cyflwyniad cyffredinol i?r Gyfraith Gyfansoddiadol:


Cyfansoddiadau ysgrifenedig ac anysgrifenedig; terfynau i b?er llywodraethau; trefnu pwerau llywodraeth; cynnwys y ddeddfwrfa; y weithrediaeth a?r farnwriaeth; gwahaniad pwerau a rhwystrau a gwrthbwysau; cyflwyniad i?r rhaglen diwygio cyfansoddiad DU; cyflwyniad byr i?r Ddeddf Hawliau Dynol.


2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain:


Rheolau cyfreithiol y Cyfansoddiad: Deddfau?r Senedd a deddfwriaeth ddirprwyol; lle cyfraith y Gymuned Ewropeaidd yn y gyfundrefn; cyflwyniad ar sut y llunnir cyfraith y Gymuned Ewropeaidd; athrawiaethau sylfaenol cyfraith y Gymuned Ewropeaidd; cyflwyniad i gonfensiynau?r Cyfansoddiad; problemau ynghylch adnabod a gorfodi confensiynau; yr achos o blaid gosod confensiynau mewn cod; cyfansoddiad ysgrifenedig i?r Deyrnas Unedig?


3. Patrwm y Deyrnas Unedig:


Cyfansoddiad unedol y Deyrnas Unedig; rhannau cyfansoddol y DU; datganoli; newidiadau ynghylch: Yr Alban; Cymru; Gogledd Iwerddon; Llundain; llywodraeth ganolog a lleol. Sylw arbennig i Ddeddf Llywodraeth Cymru a?r Cynulliad Cenedlaethol.


4. Y Senedd ac athrawiaeth Sofraniaeth y Senedd:


Y Senedd; ei swyddogaeth a?i chynnwys; elfennau?r athrawiaeth am Sofraniaeth y Senedd; datblygiad a goblygiadau?r athrawiaeth; trosglwyddo sofraniaeth i gyn-drefedigaethau; yr undeb rhwng yr Alban a Lloegr a Chymru; mesurau datganoli; gwarchod hawliau a materion sicrhau (entrenchment); ymuno a?r Gymuned Ewropeaidd (goruchafiaeth cyfraith y Gymuned Ewropeaidd, ac ymaddasu iddi o fewn y DU).


5. Gwarchod hawliau sylfaenol yn y DU:


Deddf Hawliau Dynol; cyflwyniad a chefndir; y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; yr hawliau a warchodwyd; y modd y mae hawliau wedi eu diogelu; materion cyfreithiol penodol ynghylch y ddeddfwriaeth. (Ymdrinnir a?r pwnc yn bennaf mewn seminarau).


6. Y Senedd a?r Llywodraeth; y Weithrediaeth; y Goron:


Y Frenhiniaeth; Llywodraeth Ganolog; uchelfraint y Goron a rol confensiynau; tasgau?r Llywodraeth; pwerau?r Llywodraeth; rol y Llywodraeth mewn deddfwriaeth; rheolaeth dros bwerau?r Llywodraeth gan D??r Cyffredin, T??r Arglwyddi a?r llysoedd; atebolrwydd y Llywodraeth i?r Senedd; cyfyngiadau eraill ar bwerau?r Llywodraeth (gwleidyddiaeth go iawn, democratiaeth, cyfanfydeiddio).


Dysgu


Cyflwynir y dysgu trwy gyfrwng darlithiau (35) a seminarau/gweithdai (8). Bydd y darlithiau yn cynnig cyflwyniad i bob pwnc, a bydd taflenni?r cwrs yn dangos darllen pellach. Grwpiau llai yw?r seminarau, a bwriedir iddynt drafod materion penodol yn fwy manwl.   


Bydd gweithdai hefyd yn canolbwyntio ar bynciau arbenigol, a?r bwriad o hybu gwaith gr?p ymhlith myfyrwyr. Yn ogystal a?r elfennau hyn, dylai myfyrwyr ddisgwyl treulio cyfran sylweddol o?u hamser yn y llyfrgell gan baratoi at seminarau, a darllen y gwaith a nodwyd ar y taflenni.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
Gweler LA16220.