Cod y Modiwl GF32920  
Teitl y Modiwl ECWITI A CHYFRAITH YMDDIRIEDAU  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys Williams  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   40 Awr Yn Saesneg - Dwy ddarlith awr yr un bob wythnos  
  Seminarau   8 Awr Yn Gymraeg - Pedwar seminar un awr bob semester  
Exemptionau Professionalau Yn ofynnol at Bwrpas Proffesiynol  

Disgrifiad cryno


Mae angen i fyfyrwyr astudio Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau er mwyn cael eu heithrio o arholiadau Rhan I Cymdeithas y Gyfraith a?r Bar. Sefydlir ymddiriedolaethau am lawer o resymau: e.e. cyd-berchenogaeth y cartref priodasol; er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant, yr henoed neu rai dryslyd eu meddwl; neu i ddiogelu pobl rhag eu heithafion eu hunain neu?r hyn a dybia?r setlwr sy?n eithafion ynddynt. Yn yr achosion hyn sefydlir ymddiriedolaeth yn fwriadol ac fel arfer ar ol cryn feddwl a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill mae?r rhodd yn fyrfyfyr, ac yma mae?n rhaid i?r gyfraith ddod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu?r gronfa a geir wedyn. Bydd hyn yn digwydd pan wneir apel yn dilyn trychineb, megis y tan ar gae pel-droed Bradford City, neu pan suddodd fferi Zeebruge, neu ar ol gollwng olew ar hyd arfordir Ynysoedd Shetland. Yn sgil llofruddio?r bachgen bach James Bulger o Lerpwl, codwyd apel i helpu?r teulu yn eu trallod ac er budd y gymuned leol. Bu pobl yn anfon arian ers dyddiau lawer a bu?n rhaid i gyfreithwyr ddod o hyd i ffordd o?i drin a?i ddefnyddio at ddibenion penodol. Ffurfiwyd ymddiriedolaeth i?r pwrpas. Bydd rhai o?r apeliadau hyn yn ennill statws elusennol, ond fydd llawer ddim. Mae?r modiwl hwn yn ystyried y diffiniad o elusen a?r anghysonderau lawer sydd yn y gyfraith. E.e., pam y gwrthodir statws elusennol i gronfeydd trychineb yn aml iawn; pam y rhoddwyd statws elusennol er hyrwyddo crefydd i gronfa a oedd yn hyrwyddo llen Joanna Southcote, merch a gredai ei bod yn feichiog trwy?r Ysbryd Glan, ond nid i gronfa er budd urdd gaeedig o leianod Pabyddol? Pam y caniatawyd ymddiriedolaethau i rai dibenion hynod o ryfedd pan na alli?r un enaid byw gael mantais ohonynt? Ystyrir hefyd rol ymddiriedolaethau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedolaethau yn y gyfraith fasnachol. Bydd rol rhwymed?au ecwit?ol a rhwyddineb eu cael yn destun sylw hefyd. Dylai myfyrwyr sy?n astudio Ecwiti ac Ymddiriedolaethau fod wedi astudio Cyfraith Tir eisoes neu fod wrthi?n dilyn y cwrs hwnnw ar yr un pryd. Mae?n adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd yng nghyfraith tir, ond hefyd yn eu hatgyfnerthu ac yn ehangu arnynt.

Nod


Tri amcan sydd i?r modiwl. Y cyntaf yw rhoi i fyfyrwyr sylfaen gadarn yn egwyddorion a rheolau Ecwiti ac Ymddiriedolaethau. Wedyn rhoddir digon o wybodaeth i fyfyrwyr fel y gallant asesu?n feirniadol safle Ecwiti ac Ymddiriedolaethau yn nhrefniadau ariannol a threthiannol dinasyddion preifat a masnach yn gyffredinol. Y trydydd amcan yw helpu?r myfyrwyr hynny sy?n awyddus i gael eu heithrio o arholiadau Rhan I Cymdeithas y Gyfraith/y Bar.

Canlyniadau dysgu


? Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o?r rheolau cyfreithiol sy?n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedolaethau, a?r sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
? Datblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth, a throsglwyddo?r sgiliau sydd eu hangen i ddadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol cymhleth.

Maes llafur


A. Egwyddorion a rhwymed?au ecwit?ol


datblygiad ecwiti a rhwymed?au ecwit?ol
rhesymau am ddatblygiad ymddiriedolaethau
ymddiriedolaethau fel dull o osgoi treth
ymddiriedolaethau fel dulliau diogelu
ymddiriedolaethau mewn masnach


B. Rhwymed?au a phwysigrwydd ymarferol trefniadaeth yng nghwrs achos


gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva
gorchmynion Anton Pillar
neilltuo teitl a?i olrhain
perfformiad penodol
difrod mewn ecwiti
adroddiad ar elw


C. Cyfraith Ymddiriedolaethau


1. Ymddiriedolaethau er budd unigolion


(a) Creu ymddiriedolaeth


Cymhwyster
gofynion sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau
bytholbarhad


(b) Sicrwydd buddiolwyr


Ymddiriedolaethau a Phwerau
natur y buddiant llesol


(c) Sicrwydd Eiddo


2. Ymddiriedolaethau Goblygedig ac Eiddo Teuluol


ymddiriedolaethau sy?n dychwel ac estopel y perchennog
ymddiriedolaethau goblygedig ac eiddo teuluol
ymddiriedolaethau trwy ddehongliad rhwymed?ol
ymddiriedolaethau cwbl gudd a lled-gudd


3. Ymddiriedolaethau Elusennol


Diffiniad o elusen
y cysyniad o fudd y cyhoedd
elusennau a gwleidyddiaeth
gweinyddu elusennau
Deddf elusennau 1994
cynlluniau cy-pres ac angen cymdeithasol
cronfeydd trychineb


4. Ymddiriedolaethau i Ddibenion Anelusennol ac i unigolion dibenion cymysg


5. Amrywio ar Ymddiriedolaeth


terfynu dan Saunders v Vautier
amrywio ar ymddiriedolaeth
Deddf Amrywio ar Ymddiriedolaethau 1958


CH. Ymddiriedolwyr


Penodi, ymddeoliad a diswyddo
pwerau a dyletswyddau
gwrthdaro buddiannau
tal
buddsoddi eiddo ymddiriedolaeth

Rhestr Ddarllen

Llyfr
Gweler LA32920.