Cod y Modiwl GF36030  
Teitl y Modiwl CYFRAITH CAMWEDD  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Glenys Williams  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   48 Awr Yn Saesneg - tair darlith un awr yr wythnos yn ystod y ddau semester  
  Seminarau   10 Awr Yn Gymraeg - pum seminar un awr ym mhob semester  
Exemptionau Professionalau Yn ofynnol at Bwrpas Proffesiynol  

Disgrifiad cryno


Pwnc dynamig yw cyfraith camwedd sy?n trafod amrywiaeth helaeth o brofiadau dynol. Wrth astudio?r pwnc fe gewch olwg nid yn unig ar gangen hanfodol o?r gyfraith, ond hefyd ar y modd y mae?r gyfraith yn cael effaith ar lawer o weithgareddau cymdeithasol ac economaidd. Nid pwnc sych a haniaethol mo hwn, ond un sy?n dylanwadau ar fywyd beunyddiol y cartref a byd busnes fel ei gilydd. Oherwydd hyn mae cydymwneud bywiog rhwng egwyddorion cyfreithiol a pholisi cymdeithasol ac economaidd. Mae Cyfraith Camwedd yn bwnc gorfodol i fyfyrwyr LLB, ac yn bwnc craidd er mwyn cael eich eithrio o Ran 1 o arholiadau Cymdeithas y Gyfraith.


Disgrifiad cyffredinol


Dechreuwn trwy astudio Cyfraith Tresmasiad, ac yna symudwn at Esgeuluster yn ei holl agweddau. Bydd myfyrwyr yn gweld nid yn unig sut mae polis?au cymdeithasol ac economaidd wedi cael effaith allweddol ar bwnc atebolrwydd am fai ac amrediad posibl yr atebolrwydd hwnnw, ond hefyd sut maent wedi effeithio ar strwythur dadansoddol camwedd esgeuluster. Rhan fywiog o?r gyfraith yw hon. Cafodd ei datblygu?n fawr yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae?n dal yn faes dadleuol. Ar ol trafod amddiffyniadau ac atebolrwydd dirprwyol (sef atebolrwydd cyflogwr am gamwedd a gyflawnir gan ei weithwyr), mae?r cwrs yn ystyried camweddau eraill, yn enwedig y rhai sy?n ymwneud a dyletswyddau perchennog eiddo, megis niwsans ac atebolrwydd am lygredd. Mae?r cwrs yn ei grynswth yn trafod sut mae?r gyfraith yn gosod safonau ymddygiad personol a masnachol ar osgoi difrod, ac mae?n hanfodol nid yn unig yn ei rinwedd ei hun, ond hefyd yng nghyswllt llawer o feysydd eraill y gyfraith.

Nod


Yn ogystal a rhoi sylfaen gadarn yng nghyfraith camwedd, mae?r cwrs yn cynnig dealltwriaeth hanfodol o?r modd y mae?r gyfraith gyffredin yn gweithredu. Dyma gyfrwng perffaith i feithrin yn arbennig sgiliau dadansoddi sy?n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Mae?n cynnig hyfforddiant mewn dadansoddi problemau cymhleth a?r gallu i feddwl yn rhesymegol, yn ogystal a deall effeithiau ehangach y gyfraith a sut mae penderfyniadau wedi eu gwneud o blaid neu yn erbyn atebolrwydd. Mae?n bwnc sy?n rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ac o?r herwydd byddwch yn meithrin lefel uchel o sgiliau mewn dadansoddi achosion. Fe wnewch hyn nid yn unig wrth weld y rheolau cyfreithiol a sefydlwyd gan yr achosion, ond hefyd wrth ddeall sut y datblygir cynsail a sut y mae egwyddorion cyffredinol yn cael eu creu.

Canlyniadau dysgu


Mae cyfraith camwedd yn gyfrwng delfrydol i feithrin sgiliau dadansoddi sy?n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau dadansoddi rhesymegol, y gallu i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol wrth ddatrys problemau unigol, gwerthfawrogiad o faterion polisi, y gallu i ddefnyddio iaith yn fanwl gywir ac yn effeithiol, a?r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth.

Maes llafur


Maes Llafur:


1. Egwyddorion Cyffredinol


2. Cyd-destun Cymdeithasol ac Economaidd Cyfraith Camwedd


TRESMASIAD


3. Tresmasiad ar yr Unigolyn
(a) Curo ac ymosod
(b) Peri gofid emosiynol yn fwriadol
(c) Camgarcharu
(ch) Amddiffyniadau i dresmasiad ar yr unigolyn


4. Tresmasiad ar Dir


5. Ymyrraeth Fwriadol a Theclynnau
(a) Tresmasiad ar Nwyddau
(b) Trosiant


6. Tresmasiad ac Esgeuluster


ESGEULUSTER ? YR EGWYDDORION SYLFAENOL


7. Dyletswydd Gofal
(a) Ystyr dyletswydd
(b) Yr achwynydd na ellir mo?i ragweld


8. Safon Gofal
(a) Y dyn rhesymol
(b) Sgil y diffynnydd
(c) Ffactorau eraill
(ch) Eithriadau i wir wrthrychedd


9. Prawf o Esgeuluster


10. Achosiaeth a Phellenigrwydd Difrod
(a) Achosiaeth
(b) Pellenigrwydd difrod


11. Diwygiadau
(a) Comisiwn Pearson
(b) System Seland Newydd o atebolrwydd heb fai


ESGEULUSTER ? PROBLEMAU DYLETSWYDD PELLACH


12. Anwaith


13. Atebolrwydd Cyrff Cyhoeddus


14. Sioc Nerfol


15. Camddatganiad Esgeulus


16. Colled Economaidd ? Ymyrraeth esgeulus a mantais arfaethedig


17. Dyletswydd Gofal a Chontract


18. Atebolrwydd Cynhyrchion
(a) Contract
(b) Esgeuluster
(c) Deddf Gwarchod Defnyddwyr 1987


19. Plant Heb eu Geni


AMDDIFFYNIADAU


20. Esgeuluster Cyfrannol


21. Caniatad
(a) Effaith hysbysiad
(b) Caniatad ? volenti non fit injuria


22. Ex turpi causa/anghyfreithlondeb


ATEBOLRWYDD DIRPRWYOL


23. Atebolrwydd Dirprwyol
(a) Y theori gyfreithiol
(b) Natur `cyflogaeth?
(c) Cwrs cyflogaeth
(ch) Contractwyr annibynnol/yr hunangyflogedig


CAMWEDDAU PELLACH


24. Tor-ddyletswydd Statudol


25. Atebolrwydd Deiliad
(a) Atebolrwydd i ymwelwyr
(b) Atebolrwydd i dresmaswyr ac eraill nad ydynt yn ymwelwyr


26. Niwsans
(a) Niwsans cyhoeddus
(b) Niwsans preifat


27. Atebolrwydd Caeth: Rylands v Fletcher


28. Atebolrwydd am Danau


29. Rheoli Mathau Arbennig o Lygredd
(a) Gollyngdod niwclear
(b) Cael gwared a gwastraff


30. Atebolrwydd am Anifeiliaid


31. Difenwad


Dysgu


Dysgir Cyfraith Camwedd trwy gyfrwng darlithiau a seminarau. Bydd y darlithiau?n cynnig golwg ar strwythur y gyfraith a sut y gellir dadansoddi achosion i greu?r egwyddorion sydd y tu ol i?r pwnc. Gan fod Cyfraith Camwedd yn rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ni fydd y darlithiau?n cynnig datganiad diffiniadol o reolau?r gyfraith ond yn hytrach bydd myfyrwyr yn cael eu harwain i wneud eu hasesiad eu hunain o ystyron yr achosion. Mae darllen yr achosion a argymhellwyd yn hanfodol, a bydd seminarau?n cynnig fforwm i drafod sut mae deall a chymhwyso cyfraith achosion yn gywir.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
Gweler LA36030.