Cod y Modiwl GW10110  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL1:REALAETH WLEDYDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Adam Morton  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus IP10110  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr (5 x 1 awr) (yn Gymraeg)  
  Darlithoedd   20 Awr (20 x 1 awr) (yn Saesneg)  
Dulliau Asesu Traethodau   1,500 o eiriau.   30%  
  Arholiad   2 Awr 1 x arholiad 2 awr   70%  

Canlyniadau dysgu


Ar ddiwedd y modiwl dylech fedru:
- disgrifio esblygiad a natur y gyfundrefn ryngwladol
- amlinellu ac asesu'r prif gysyniadau yn y disgrifiad Realaidd o Wleidyddiaeth Ryngwladol
- cynnig atebion i'r pum cwestiwn a osodir yn y modiwl ynghylch pam mae gan Wleidyddiaeth Ryngwladol y patrymau sydd iddi
- nodi ac asesu'r dewisiadau sydd ar gael i arweinwyr gwledydd a medru esbonio'r cyfyngiadau sydd ar eu gweithredoedd
- dangos ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau'r fframwaith Realaidd a nodi pa fframweithiau eraill sydd ar gael.

Nod y modiwl


Prif bwrpas y modiwl yw cynnig cyflwyniad cydlynol i ddamcaniaeth bennaf Glweidyddiaeth Ryngwladol a'ch helpu i esbonio pam mae gan gysylltiadau rhyngwladol y patrymau sydd iddynt.

Disgrifiad cryno


Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar un dull o ystyried Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sef y safbwynt Realaidd. Mae yna
ddulliau eraill, a thrafodir y rhain ym modiwl yr ail semester (GW10310). Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar egluro'r disgrifiad traddodiadol o Wleidyddiaeth Ryngwladol. Mae'n cynnig fframwaith trefnus fel y gallwch esbonio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a hefyd yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i brif themau a phynciau cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.


Tair rhan sydd i'r modiwl:
Cefndir: lle byddwch yn edrych ar ddatblygiad y gyfundrefn ryngwladol a hanes cryno o sut y cafodd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ei dehongli yn ystod yr 20fed ganrif;
Cysyniadau: sy'n gwflwyniad i brif gysyniadau Gwleidyddiaeth Ryngwlado megis grym, cydbwysedd grym, moesoldeb, systemau rhyngwladol a chymdeithas ryngwladol;
Cwestiynau: lle byddwn yn gosod nifer o gwestiynau allweddol ynghylcham Gleidyddiaeth Ryngwladol gan drafod materion megis pwy sy'n gweithredu yng ngwleidyddiaeth y byd, sut mae polisi tramor,yn cael ei lunio, beth yw'r prif offernynnau ar gyfer gweithredu ar bolisi tramor, pam mae rhyfel yn digwydd, beth yw'r prif ddylanwadau ar weithredoedd arweinwyr gwledydd?

Rhestr Ddarllen

Llyfr
J Baylis & S Smith. the Globalization of World Politics. OUP 1997
K Holsti. International Politics: A Framework for Analysis 7th ed. prentice-Hall 1995
P Viotti & M Kauppi. International Relations theory 2nd ed. Macmillan 1993
Jack Donnelly. Realism. Cambridge University Press 2000