Cod y Modiwl GW10310  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL 2: YR YMRAFAEL RHWNG SAFBWYNTIAU  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Jenny Edkins  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus IP10310  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr Nifer y darlithiau (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y darlithiau (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Traethodau   1,500 o eiriau.   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Amcanion


Ar ddiwedd y modiwl dylech fedru cymharu a chyferbynnu'r modd y mae pob un o'r fframweithiau hyn yn ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol, ac ar gyfer pob safbwynt


- trafod syniadau a meddylwyr sy'n sail iddo
- amlinellu ei brif syniadau a'i gysyniadau
- disgrifio ei brif gwestiynau a'i ystyriaethau
- dangos ymwybyddiaeth o'i gryfderau a'i wendidau
- dangos ddealltwriaeth fanwl o awdur arbennig

Disgrifiad cryno


Dyma'r ail o ddau fodiwl sy'n cyflwyno Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Rydym yn gobeithio y bydd yn cynnig golwg newydd, cyffrous a heriol ar y pwnc. Yn y modiwl cyntaf IP/GW10110 yn ystod semester 1 cyflwynwyd y disgrifiad Realaidd traddodiadol. Mae'r modiwl nesaf hwn yn cyflwyno pedwar safbwynt cyfoes, a phob un yn anghytuno a'r fframwaith a gefnogir gan y Realwyr. Ar lawer ystyr maent yn cynnig mwy o her ac yn fwy anodd i'w hastudio am eu bod yn wahanol i'r safbwynt synnwyr cyffredin sydd mor arferol mewn cyd-destun anacademaidd a gewch er enghraifft yn y newyddion neu mewn sgwrs yn y dafarn. Pwrpas gwaith academaidd yw cwestiynu doethineb confensiynol a gofyn a ellir cyfiawnhau syniadaeth draddodiadol, yn hytrach na chymryd synnwyr cyffredin yn ganiataol. Mae'r disgrifiadau amgen yn herio'r honiadau am niwtraliaeth a gwrthrychedd a wneir gan y disgrifiad Realaidd, ac yn gofyn i ba raddau y gellir dweud ei fod yn ddisgrifiad 'realistig'. Maent yn cynnig inni ddiffiniadau amgen a mwy cyffrous o hanfod Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Nod y modiwl


Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad i bedwar safbwynt cyfoes gwahanol ar Wleidyddiaeth Ryngwladol, y gwahaniaethau rhyngddynt, a'r disgrifiad o wleidyddiaeth ryngwladol a roddir gan bob un. Ceir pedwar bloc. Mae pob un yn delio ag un safbwynt. Byddwn yn canolbwyntio bob tro ar awdur arbennig a thestun allweddol ganddynt er mwyn symleiddio'ch tasg a sicrhau y bydd gennych afael glir erbyn y diwedd ar o leiaf un fersiwn o'r safbwynt yn hytrach na golwg niwlog iawn o sawl un.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
J Baylis & S Smith. The Globalisation of World Politics. OUP
D Held. Prospects for Democracy. Blackwell 1992
C Enloe. Bananas, Beaches and Bases. Pandora 1989
D Campbell. National Deconstruction. Minnesota 1998
I Wallerstein. The Modern World-System. Academic Press 1974-1989