Cod y Modiwl GW10710  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH Y DEYRNAS UNEDIG  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Dafydd Trystan-Davies  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus IP10710  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr (18 X 1 hour)  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr (5 x 1 hour)  
Dulliau Asesu Traethodau   1,500 o eiriau   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Disgrifiad cryno


Rhagarweiniad yw'r modiwl hwn i wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ac i'r system y mae'r wleidyddiaeth yn gweithio ynddi. Ar ol edrych yn gryno ar y cyd-destun hanesyddol a sefydliadol, byddwn yn edrych ar y ffordd y caiff gwleidyddiaeth ei gweithredu trwy ystyried cyfres o faterion cyfoes. Gall rhain amrywio yn ol yr hyn sy'n digwydd ar y pryd, ond fel arfer byddent yn cynnwys materion tebyg i hyn: Ewrop, datganoli a dirywiad graddol San Steffan; rhywedd, hil a dosbarth ym mywyd gwleidyddol y Deyrnas Unedig; newidiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys Arglwyddi; a deinameg cyfnewidiol grym y pleidiau.

Nod


Nod y modiwl yw archwilio peirianwaith system wleidyddol y Deyrnas Unedig trwy ystyried y ffordd y mae'n gweithredu mewn perthynas a datblygiadau a digwyddiadau cyfoes.

Amcanion


Erbyn diwedd y modiwl, dylai myfyrwyr:


- allu adnabod tueddiadau allweddol yn natblygiad gwleidyddiaeth gyfoes y Deyrnas Unedig.


- allu deall a dangos perthynas y safleoedd grym sy'n cael eu dal gan yr amrywiol weithredwyr yn y broses wleidyddol, yn ogystal a thensiynau a gobeithion y gweithredwyr gwleidyddol hyn.


- allu dangos ymwybyddiaeth feirniadol o gyd-destun y llif di-baid o newyddion gwleidyddol, yn ogystal a geiriau a gweithredoedd y gwleidyddion sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig heddiw.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
P Norton. (1994) The British Polity. 3rd.
A Birch. British System of Government 10th ed.
W Coxall & L Robins. (1994) Contemporary British Politics. 2nd.
D Childs. Britain since 1945: Political History, 3rd (1992).
D Kavanagh. (1996) British Politics, Continuities and Change. 3rd.