Cod y Modiwl GW10910  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL Y TRYDYDD BYD  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rita Abrahamsen  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus IP10910  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr (18 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr (5 x 1 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Traethodau   2,000 o eiriau.   30%  
  Arholiad   2 Awr   70%  

Disgrifiad cryno


Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i astudiaeth drefnus o wladwriaethau a chymdeithasau'r Trydydd Byd. Mae'n ymgais i
gyfuno dadansoddiad damcaniaethol ag ymchwiliad empeiraidd i faterion sydd fwyaf perthnasol i les dinasyddion y Trydydd
Byd. Mae gwladwriaethau'r Trydydd Byd yn chwilio am ryw gyfuniad o'r tri nod, sef datblygiad, diogelwch a chyfraniad.
Bydd y graddau y llwyddir i gyrraedd y tri nod hyn yn dibynnu ar hanes y wlad, ei hadnoddau a'i gwerthoedd, ac ar y
gyfundrefn ryngwladol lle y ceir gwledydd y Trydydd Byd.

Nod y modiwl


Prif amcan y modiwl hwn yw astudio'r amrywiaeth cymhleth o rymoedd gwladol a rhyngwladol sy'n pennu i ba raddau y mae
gwladwriaethau'r Trydydd Byd yn cyflawni eu hamcanion.

Amcanion


Ar ddiwedd y modiwl dylech fedru gwerthfawrogi


- Beth sy'n gyffredin ac yn wahanol ynglyn a'r Trydydd Byd
- Beth yw datblygiad economaidd a/neu wleidyddol
- Sut y mae grymoedd gwladol a rhyngwladol yn dylanwadu ar y canlyniadau
- A oes gan wladwriaethau'r Trydydd Byd rym yn y gyfundrefn ryngwladol, ac os oes, i ba raddau.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
N Adams. (Zed) Worlds Apart: The North South Divide and the International System.
M Ayoob. Third World Security Predicament. Rienner 1995
J Haynes. Third World Politics: A Concise Introduction. Blackwell 1996
A Dickson. Development and International Relations. Polity 1997