Cod y Modiwl | GW19810 | ||
Teitl y Modiwl | TU OL I'R PENAWDAU: MATERION GWLEIDYDDOL BYD-EANG 1 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Yr Athro Mick Cox | ||
Semester | Semester 1 | ||
Elfennau Anghymharus | IP19810 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr (20 x 1 awr) | |
grwpiau annibynnol | |||
Dulliau Asesu | Prosiect gr p | 1 x cofnod dadansoddol 5,000 gair o waith y grwp | 50% |
Arholiad | 3 Awr 1 x arholiad 3 awr llyfr agored | 50% |
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar bethau y byddwch o bosibl yn eu gwybod eisoes (y 'penawdau') ac yna'n adeiladu ar hynny (trwy edrych y 'tu ol' i'r penawdau). Byddwn yn ystyried, ar wahanol lefelau, cyfres o faterion cyfoes pwysig yng ngwleidyddiaeth y byd - o gyflwr y byd i wleidyddiaeth fyd-eang - gan geisio egluro pam eu bod mor bwysig, beth yw'r prif ddeinameg sy'n eu gyrru, a beth yw eu hoblygiadau. Gwneir hyn trwy amryw ddulliau dysgu gwahanol: darlithoedd traddodiadol, deunydd fideo, byrddau crwn, a thrafodaethau. Byddwn hefyd yn defnyddio nifer o ddulliau eraill an-nhraddodiadol, megis grwpiau bach annibynnol, arholiad llyfr agored, a chofnodi gwaith prosiect. Ymhlith y penawdau a ystyrir yn y modiwl hwn - ynghyd a IP19910 - fydd rhai sy'n gysylltiedig a'r datblygiadau diweddaraf mewn ymyrraeth ddyngarol, yr economi byd-eang, datblygiadau yn yr Unol Daleithiau a Rwsia, rhyfela, dyfodol Ewrop, datganoli ym Mhrydain, gwarchod hawliau dynol, y fasnach gyffuriau ryngwladol, ac y.y.b. Yn ogystal ag edrych y tu ol i'r penawdau, bydd y modiwl hefyd yn cyflwyno sgiliau astudio sy'n hanfodol i holl fodiwlau'r Adran.