Cod y Modiwl GW30420  
Teitl y Modiwl CYSYNIADAU ALLWEDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro Andrew Linklater  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Miss Rebecca Jones  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr (18 x 1 awr)  
    4 Awr Bord Gron: 4 cyfarfod x 1awr  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   50%  
  Arholiad   2 Awr   50%  

Disgrifiad cryno


Prif amcan y modiwl hwn yw cynnig i fyfyrwyr sgiliau uwch wrth ddadansoddi cysyniadau, a chynnig hyfforddiant i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn meysydd ymarferol a damcaniaethol wrth astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod


Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad uwch i gysyniadau allweddol yng ngwahanol feysydd gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys astudiaethau strategol a diogelwch, hanes rhyngwladol, economi wleidyddol ryngwladol, a safbwyntiau normadol. Bydd myfyrwyr yn astudio ystyr cysyniadau allweddol yn fanwl. Mae'r modiwl hefyd yn cynnig sgiliau meddwl am y cysylltiad rhwng meysydd amrywiol yr astudiaeth gyfoes o wleidyddiaeth.

Cynnwys


Pedair rhan sydd i'r modiwl. Mae'r rhan gyntaf yn gofyn a yw dyfodol gwleidyddiaeth y byd wedi ei dynghedu i ailadrodd y gorffennol, yn fwyaf canolog wrth weld cynnydd a chwymp pwerau mawrion. Mae'r ail ran yn ystyried y defnydd o rym yn y byd modern, gan ofyn a ydyw syniadau bod grym yn perthyn i oes a fu yn awgrymu bod cydweithredu rhyngwladol yn disodli rhyfel a gwrthdaro. Mae'r drydedd ran yn gofyn a yw anghydraddoldeb byd-eang yn rhwym o gynyddu yn y dyfodol, neu a ellid ei leihau eto. Mae'r bedwaredd ran yn astudio dyfodol sofraniaeth genedlaethol o ystyried datblygiad diwylliant hawliau dynol byd-eang, ac ymyrraeth ddyngarol a allai fynd yn norm cynyddol.

Canlyniadau dysgu


Wrth gwblhau'r modiwl hwn bydd gan fyfyrwyr fwy o ymwybyddiaeth o amryw ystyron a sut y defnyddir cysyniadau allweddol wrth ddadansoddi gwleidyddiaeth. Datblygir y gallu i gymhwyso'r sgiliau hyn i feysydd ymarferol a damcaniaethau mewn gwleidyddiaeth ryngwladol. Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cysyniadol y gellir eu defnyddio wrth ysgrifennu traethodau uwch, ac wrth ymchwilio i draethawd estynedig y drydedd flwyddyn a'i ysgrifennu.   


10 credydau ECTS

Sgiliau trosglwyddadwy


Bydd y traethawd yn datblygu sgiliau dadansoddi y gellir eu defnyddio mewn sawl maes mewn swydd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu crynodeb byr o'r traethawd, a fydd yn helpu i ddatblygu'r sgil o grynhoi’n eglur ddadleuon cymhleth. Bydd arholiad terfynol yn datblygu'r gallu i ysgrifennu datganiadau cryno dan bwysau am feysydd sy'n cynnwys sawl mater.

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
John Baylis and Steve Smith (eds). The Globalisation of World Politics, Cambridge. 2001. Cambridge University Press