Cod y Modiwl GW32420  
Teitl y Modiwl SYNIADAETH WLEIDYDDOL YN YR UGAINFED GANRIF  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro Howard Williams  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau   22 Awr (11 x 2 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Traethodau   4,500 o eiriau   80%  
  Traethodau   amlinelliad 1,000 o eiriau   20%  

Nod


Cyflwyno syniadaeth dau o'r meddylwyr diweddar mwyaf dylanwadol : John Rawls a Juergen Habermas

Amcanion


Meithrin dealltwriaeth eglur o brif syniadau'r ddau feddyliwr a'u perthnasedd i gymdeithas gyfoes. Dylid mynegi'r ddealltwriaeth hon trwy afael sicr ar y cysyniadau canlynol: cysyniadau Rawls o gydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder dosbarthol; cysyniadau Habermas o'r sffer gyhoeddus, democratiaeth, gwladgarwch cyfansoddiadol a hunaniaeth ol-genedlaethol.

Cynnwys


Habermas ac Ysgol Frankfurt (1)
Habermas a Gwleidyddiaeth yr Almaen (2)


Cysyniad Habermas o'r sffer gyhoeddus (1)
Y syniad o foeseg disgwrs (1)
A Theory of Justice Rawls - egwyddor gwahaniaeth a llen anwybodaeth (2)
Rhyddfrydiaeth Wleidyddol a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau (2)
`Cyfraith pobloedd' - cyfiawnder rhyngwladol (10)
Cymharu Rawls a Habermas - adolygu a chasgliad (1)


10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
K Baynes. The Normative Grounds of Social Criticism.
J Rawls. Theory of Justice.