Cod y Modiwl |
GW32920 |
Teitl y Modiwl |
DOSBARTH,CYMUNED A CHENEDL:SYNIADAETH WLEIDYDDOL GYMREIG |
Blwyddyn Academaidd |
2001/2002 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Richard Wyn Jones |
Semester |
Semester 2 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 14 Awr (14 x 1 awr) |
|
Seminarau | 10 Awr (5 x 2 awr) |
Dulliau Asesu |
Traethodau | 1 x 3,000 o eiriau | 50% |
|
Arholiad | 2 Awr | 50% |
Nod
Mae amcanion y modiwlau yn rai cyffredinol ac arbennigol. Ymysg yr amcanion arbennigol, disgwylir y byddwch yn datblygu'r gallu i drafod y canlynol:
-
prif nodweddion syniadaethol y prif draddodiadau gwleidyddol yng Nghymru, hynny yw, Rhyddfrydiaeth, Sosialaeth a Chenedlaetholdeb;
-
y modd y mae'r traddodiadau hyn wedi ymdrin a'r cysyniadau gwleidyddol canlynol: dosbarth, cymuned a chenedl;
-
y graddau a ellir honni bod yna ffurf o feddwl gwleidyddol sydd yn nodweddiadol Gymreig.
Amcanion
Bwriad y cwrs yw cyflwyno y prif ffrydau deallusol sydd wedi sbarduno gweithgaredd gwleidyddol yng Nghymru yn ystod y ganrif hon. Byddwn yn bwrw golwg ar y traddodiad Rhyddfrydol, y traddodiad Sosialaidd a'r traddodiad Genedlaethol gan drafod eu prif nodweddion syniadaethol a'u gosod yn eu cyd-destun cymdeithasol ehangach. Drwy'r cyfan fe fyddwn yn rhoi ystyriaeth i'r modd y mae'r traddodiadau yma wedi ymdrin a thri cysyniad gwleidyddol holl bwysig: dosbarth, cymuned a chenedl.
Mae'r modiwl wedi ei drefnu o amgylch astudiaeth o destunau arbennig - testunau sydd yn crynhoi corff o syniadau, neu a oedd eu hunain yn sbardun i weithgaredd gwleidyddol.
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
K O Morgan.
Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980.
D Hywel Davies.
The Welsh Nationalist Party 1925-1945.