Cod y Modiwl GW36820  
Teitl y Modiwl DULLIAU YMCHWIL A DAMCANIAETH GYMDEITHASOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Colin Wight  
Semester Semester 2  
Cyd-Ofynion IP36720 , IP37720  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   19 Awr (19 x 1 awr)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   3,000 o eiriau   50%  
  Traethodau   amlinelliad o'r traethawd estynedig (3,000 o eiriau)   50%  

Nod


Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr yr ail flwyddyn ddealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil ac or gwyddorau cymdeithasol, a'u rhoi ar ben ffordd yn gynnar wrth ysgrifennu eu traethawd estynedig.

Disgrifiad cyffredinol


Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil a theori gymdeithasol, a meithrin eu sgiliau er mwyn ymchwilio ar gyfer y traethawd estynedig gorfodol a'i ysgrifennu'n llwyddiannus. Trwy gysylltu'r dulliau hyn a dadleuon mewn theori gymdeithasol mae modd i fyfyrwyr ddeall sut mae ymchwil wedi ei gwreiddio mewn damcaniaethau cymdeithasol penodol gan ystyried cryfderau a gwendidau dulliau penodol o ymchwilio. Mae'r modiwl yn cynnwys sesiynau ar theori gymdeithasol, cysyniadau sylfaenol mewn cymdeithaseg, cynllunio ymchwil, llunio testun, ffynonellau ymchwil, dulliau cyflwyno a dulliau ymchwil. Yn ystod y modiwl dynodir arolygwyr traethawd i fyfyrwyr, a byddant yn cael y cyfle i drafod pwnc eu traethawd gyda hwy.

Disgrifiad cryno


Ar ddiwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:


10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
T May. Social Research: Issues Methods and Process.
G Delanty. Social Science: Beyond Constructivism and Realism.