Cod y Modiwl GW38020  
Teitl y Modiwl ATHRONIAETH WLEIDYDDOL A MODERNIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Yr Athro Howard Williams  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr (11 x 1 awr)  
  Seminarau   11 Awr (11 x 1 awr)  
Dulliau Asesu Traethodau   1 traethawd 1,5000 o eiriau   30%  
  Arholiad   2 Awr 1 arholiad 2 awr   70%  

Disgrifiad cryno


Parhad ac astudiaeth o'r materion a gyflwynwyd yn "Damcaniaeth Wleidyddol Fodern". Bydd y cwrs yn edrych yn arbennig ar y Goleuadigaeth a’r syniad o foderniaeth.

Cynnwys


Fe fydd y cwrs yn trafod y syniad o’r gymdeithas ddinesig yng waith Kant, Hegel, Marx a Gramsci. Trafodir yr amgyffrediad o foderniaeth yn arbennig yn Hegel a Nietzsche. Edrychir ar y cysylltiad rhwng moderniaeth a chyfalafiaeth yng ngwaith Marx a Lenin. Olrheinir dealltwriaeth feirniadol o’r themau hyn.

Sgiliau trosglwyddadwy


Ceir cyfle yn y cwrs hwn i ddablygu galluoedd meddyliol, llafar a chymdeithasol. Yn y darlithoedd rhoddir pwyslais ar ddeall, dilyn y trywydd cywir a chrynhoi syniadau. Gellir gwneud hyn trwy gymrydd nodiadau addas. Yn y seminarau rhoddir pwyslais yn arbennig ar ddatblygu dadleuon clir a rhesymol. Ceir y cyfle yn y seminarau hefyd i ddangos annibyniaeth barn a phwyso a mesur aeddfed. Ceisir yn olaf i ddysgu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol yn y seminarau

Nod


Amcanion y modiwl hwn yw astudio ymhellach brif destunau syniadaeth wleidyddol fodern ddiweddar trwy ystyried yn fanwl brif weithiau gwleidyddol Marx, Hegel, Lenin a Gramsci, gan ddatblygu ymwybyddiaeth o gymhlethdodau a phroblemau moderniaeth.

Amcanion


Nodau'r modiwl hwn yw:


10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfr
** Testun A Argymhellwyd
Selected Works in One Volume - Karl Marx and Friedrich Engels - Lawrence and Wishart. Karl Marx 1818-1883..
H Williams/D Sullivan/G Matthews. Francis Fukuyama and The End of History.
Immanuel Kant. (1999) What is Enlightenment in Kant's Practical Philosophy. Cambridge University Press