Cod y Modiwl GWM6020  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH A CHYMDEITHAS CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Richard Wyn Jones  
Semester Semester 1  
Manylion y cyrsiau Seminarau   1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos  
Dulliau Asesu Cyflwyniad seminar   1 x Cyflwyniad seminar asesiedig   15%  
  Traethodau   1 x traethawd 2,000 o eiriau   35%  
  Arholiad   3 Awr   50%  

Nod ac amcanion


Nod y modiwl yw cynnig gor-olwg o'r cyd-destun cymdeithasegol, gwleidyddol a cyfansoddiadol i fywyd yn y cymru gyfoes. Gan gyfuno ystyriaeth o'r dystiolaeth empiraidd hefo trafodaethau mwy cysyniadol eu naws, bwrir golwg feirniadol ar gwestiynau canolog ynglyn a Gwleidyddiaeth a Chymdeithas cymru. Yn eu plith: datblygaid sefyliadol; esblygiad y gyfundrefn bleidiol; statws economaidd ymylol Cymru; y berthynas gymleth (ddilechdidol?) rhwng integreiddio a datganoli; y berthynas rhwng dosbarth, cenedligrwydd a gwerthoedd cymdeithsasol (y 'traddodiad radicalaidd'); patrymau hunaniaeth geendlaethol yng Nghymru; lleoliad grym; a gwahaniaethau rhanbarthol yng Nghymru.


Seilir y modiwl ar ystyriaeth o ddadleuon a damcaniaethau ysgolheigion a sylwebwyr ynghylch y materion hyn. Annogir myfyrwyr i werthuso y syniadau hyn yng ngoleuni tystiolaeth empiraidd, gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol. Cyfeirir hefyd at dystiolaeth gymharol er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa Gymreig.


Disgwylir y bydd pawb sy'n dilyn y modiwl yn:


- magu dealltwriaeth grwn o'r prif safbwyntiau yn y dadleuon deallusol ynglyn a gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru
- medru gwerthuso y dadleuon hyn yng ngoleuni tystiolaeth empiraidd, gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol, a
- gosod y sefyllfa Gymreig - a trafodaeth ynglyn a'r sefyllfa hon - mewn cyd-destun cymharol ehangach.