Cod y Modiwl | GWM6120 | ||
Teitl y Modiwl | DATGANOLI A CHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Miss Rebecca Jones | ||
Semester | Semester 2 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminarau | 1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos | |
Dulliau Asesu | Traethodau | 1 x 2,500 o eiriau | 50% |
Arholiad | 3 Awr | 50% |
Bydd y seminarau yn trafod gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth Cymru ers sefydlu'r Cynulliad gan ganolbwyntio ar y broses o lunio polisi ac agweddau cyfansoddiadol/cyfreithiol, cyn symud ymlaen at berthynas y Cynulliad hefo agweddau eraill ar wleidyddiaeth Cymru ag hefyd haenau llywodraethol eraill ar y lefel wladwriaethol ac Ewropeaidd. Erbyn cwblhau'r modiwl bydd myfyrwyr wedi magu dealltwriaeth drylwyr o strwythurau, ei swyddogaethau a'i waith y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso'r Cynulliad yng nghyd-destun trafodaethau ehangach am natur gwleidyddiaeth cyfoes.
Disgwylir y bydd pawb sy'n dilyn y modiwl yn:
- dirnad, deall a gwerthuso y prif faterion a fu'n destunau trafod yng ngwleidyddiaeth Cymru er 1999
- datblygu dealltwriaeth drylwyr o strwythurau llywodraethol, y broses polisi, a'r cyd-destun gyfansoddiadol/wleidyddol, yn y Gymru ddatganoldedig
- dadansoddi y berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a haenau llywodraethol eraill, a
- deall datblygiadau yng Nghymru yng nghyd-destun datblygiadau ehangach ar y lefel Brydeinig ac Ewropeaidd.