Cod y Modiwl GWM6130  
Teitl y Modiwl DATGANOLI A CHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Rebecca Jones  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Seminarau   1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos  
Dulliau Asesu Traethodau   1 x 4,000 o eirau   50%  
  Arholiad   3 Awr   50%  

Nod ac amcanion


Prif nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i ddatblygiadau yng ngwleidyddiaeth Cymru ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trafodir strwythurau a sail gyfansoddiadol y Cynulliad. Ymhellach, bwrir golwg fanwl ar y broses o greu polisi yn y Cynulliad.


Bydd y seminarau yn trafod gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth Cymru ers sefydlu'r Cynulliad gan ganolbwyntio ar y broses o lunio polisi ac agweddau cyfansoddiadol/cyfreithiol, cyn symud ymlaen at berthynas y Cynulliad hefo agweddau eraill ar wleidyddiaeth Cymru ag hefyd haenau llywodraethol eraill ar y lefel wladwriaethol ac Ewropeaidd. Erbyn cwblhau'r modiwl bydd myfyrwyr wedi magu dealltwriaeth drylyr o strwythurau, ei swyddogaethau a'i waith y cynulliad Cenedlaethol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso'r Cynulliad yng nghyd-destun trafodaethau ehangach am natur gwleidyddiaeth cyfoes.


Disgwylir y bydd pawb sy'n dilyn y modiwl yn:


- dirnad, deall a gwerthuso y prif faterion a fu'n destunau trafod yng ngwleidyddiaeth Cymru er 1999
- datblygu dealltwriaeth drylwyr o strwythurau llywodraethol, y broses polisi, a'r cyd-destun gyfansoddiadol/wleidyddol, yn y Gymru ddatganoledig;
- dadansoddi y berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a haenau llywodraethol eraill; a
- deall datblygiadau yng Nghymru yng nghyd-destun datblygiadau ehangach ar y lefel Brydeinig ac Ewropeaidd