Cod y Modiwl | GWM6220 | ||
Teitl y Modiwl | YR ECONOMI GWLEIDYDDOL CYMREIG | ||
Blwyddyn Academaidd | 2001/2002 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Dafydd Trystan-Davies | ||
Semester | Semester 1 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminarau | Un seminar dwy awr pob wythnos | |
Dulliau Asesu | Traethodau | 1 x 2,000 o eiriau | 50% |
Arholiad | 3 Awr | 50% |
Fe fydd y modiwl yn cychwyn trwy ddadansoddi sefyllfa yr economi gwleidyddol Cymreig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd yn un o ranbarthau mwyaf deinamig y byd. Bydd yn astudio patrymau o ymyloldeb trwy flynyddoedd dirwasgiad yr 20au a'r 30au. Fe fydd yn astudio dylandwad cynllunio rhanbarthol y 50au a'r 60au a chymharu'r sefyllfa gyda agenda globaleiddio Awdurdod Datblygu Cymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.
Fe fydd yn gosod y tueddiadau materol yma mewn persbectif damcaniaethol ehangach bydd yn ceisio olrhain y rhyngberthynas rhwng y materol a'r syniadol. Trwy hyn bydd amryw agwedd ar adeiladwaith yr economi gwleidyddol Cymreig yn cael eu hystyried.
- dadansoddi'n feirniadol y prif damcaniaethol am feddwl am yr economi gwleidyddol Cymreig
- dadansoddi datblygiad perthnasau economaidd-wleidyddol o fewn Cymru dros y ganrif a hanner ddiwethaf
- gosod datblygiadau yng Nghymru yng nghyd-destun datblygiadau yn yr economi gwleidyddol rhyngwladol
- deall y gydberthynas rhwng datblygiadau materol a sut mae pobl yn deall y datblygiadau yma.