Cod y Modiwl GWM6330  
Teitl y Modiwl DATGANOLI O FEWN Y DEYRNAS GYFUNOL  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Rebecca Jones  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Seminarau   Un seminar dwy awr yn wythnosol  
Dulliau Asesu Traethodau   3,000 o eiriau   50%  
  Arholiad   3 Awr   50%  

Nod


Prif amcan y modiwl yw lleoli datganoli a datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop. Trwy fabwysiadu dulliau cymharol, bydd y modiwl yn hybu dealltwriaeth eang o'r cyrff datganoledig newydd ym Mhrydain, y berthynas sydd rhyngddynt, a'u perthynas a San Steffan a Whitehall, yn ogystal ag asesu effaieth a goblygiadau datganoli i wleidyddiaeth Prydain ac Ewrop. Yn ogystal, bydd y modiwl yn gwerthuso'r problemau a'r cwestiynau ymarferol a damcaniaethol sy'n wynebu'r wladwriaeth Brydeinig yn sgil datganoli a newidiadau cyfansoddiadol.


Man cychwyn y modiwl fydd astudio'n fanwl y trefniadau cyfansoddiadol amrywiol sydd yn bodoli yng ngwahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Bydd y modiwl wedyn yn asesu a dadansoddi'r berthynas rhwng y cyrff datganoledig newydd. Y cam nesaf fydd trafod y cysyniadau damcaniaethol sydd ynghlwm wrth y newidiadau sylfaenol yma a'u harwyddocad i'r cyfansoddiad Prydeinig. Wrth gloi, bydd y modiwl yn dadansoddi'r ymateb sydd wedi bod i ddatganoli a newidiadau cyfansoddiadol o fewn Prydain cyn trafod y cwestiynau a'r problemau fydd yn dyngedfennol wrth ystyried dyfodol y wladwriaeth Brydeinig.

Amcanion


Ar gwblhau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn medru:


- datblygu dealltwriaeth fanwl o'r trefniadau cyfansoddiadol newydd o fewn gwledydd Prydain, a gwerthuso a chloriannu'r berthynas sydd yn bodoli rhyngddynt
- dadansoddi effaith datganoli ar wleidyddiaeth a chyfansoddiad y wladriaeth Brydenig
- gwerthuso a thrafod y cysyniadau damcaniaethol sydd ynghlwm a'r drafodaeth, megis sofraniaeth, ffedealiaeth, Ewrop, annibyniaeth, hunanlywodraeth a hunaniaeth genedlaethol.