Cod y Modiwl LL20320  
Teitl y Modiwl LLYDAWEG (CWRS IAITH UWCH)  
Blwyddyn Academaidd 2001/2002  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhisiart Hincks  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod (Dysgwyd dros 2 semester)  
Blwyddyn nesaf y cynigir 2003  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cyfarteledd o 40% yn LL10120 a LL10220 Neu yn LL20220 a LL20320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   30 Awr  
Dulliau Asesu Asesiad parhaus   ymarferion   50%  
  Arholiad   2 Awr   50%  

Disgrifiad cryno


Parhad o'r cwrs i ddechreuwyr yw'r modiwl hwn. Y nod yw cwblhau'r gwersi yn y llyfr Kenteliou Brezoneg Dinzez, gwneud ambell ymarfer ieithyddol ychwanegol a gwrando ar ambell destun llafar, er mwyn dod i ddeall siaradwyr Llydaweg yn well.


Gellir dilyn y cwrs hwn fel parhad o LL10220 neu fel parhad o LL20220.

Canlyniadau dysgu


1. Dylai'r myfyriwr fedru defnyddio holl amserau'r ferf a medru sgwrsio yn weddol ddidrafferth ar lefel elfennol.


2. Dylai fedru darllen llyfrau Llydaweg, gyda chymorth geiriadur.


3. Dylai fedru ysgifennu'r iaith yn weddol gywir.