Fel arfer, mae'n ofynnol i'r sawl sy'n dewis y modiwlau hyn ddilyn LL20320 ac LL30220. Amcan y modiwlau Llenyddiaeth Lydaweg yw rhoi'r sawl sy'n awyddus i ddarllen gwaith awduron Llydaweg ar ben y ffordd. Canolbwyntir ar ddarllen straeon, cerddi a dramâ ac ar eu trosi i'r Gymraeg. Edrychir ar gefndir rhai o'r gweithiau a astudir ac ar arddull yr ysgrifenwyr, ond pennaf amcan y cwrs yw galluogi'r sawl sy'n ei ddilyn i ddarllen llyfrau Llydaweg, eu deall a'u mwynhau. Rhydd y cwrs gyfle ardderchog i'r sawl sydd am feistroli'r Llydaweg i ehangu ei eirfa a'i afael ar briod-ddulliau'r iaith.