Cod y Modiwl CF35120  
Teitl y Modiwl HAMDDEN A DIWYLLIANT POBLOGAIDD YNG NGHYMRU C1850-1939  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Owen G Roberts  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HC35130 , MW35120 , WH35130  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr Timetabled with HC 35130  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   60%  
  Asesiad Semester   2 traethawd x 2,5000 o eiriau   40%  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
a. Adolygu’n feirniadol y corff o wybodaeth hanesyddol sy’n ymwneud â hamdden a diwylliant poblogaidd;
b. Amgyffred y problemau hanesyddol sy’n ymwneud ag astudiaethau ar hamdden a’r dosbarth gweithiol diwydiannol;
c. Amgyffred y gwahanol ddadansoddiadau hanesyddol o’r testunau dan sylw;
ch. Gosod profiad cymru o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd;
d. Darllen, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth wreiddiol;
dd. Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol;
e. Darganfod a defnyddio ffynonellau hanesyddol;
f. Gweithio’n annibynnol ac mewn cydweithrediad ac eraill, ac i gymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grŵp.

Disgrifiad cryno

Y mae’r modiwl hwn yn cychwyn trwy olrhain twf hamdden yn ystod ail hanner Oes Fictoria, gan astudio datblygiad trefi glan mor a threfi gwyliau eraill. Astudir ffuriau o hamdden y dosbarth gweithiol, er enghraifft tafarndai, cerddoriaeth a chwaraeon. Hefyd astudir ymateb y dosbarth canol a’r awdurdodau i’r ffurfiau newydd o ddiwylliant poblogaidd, a’r ymgeisiau i ddarparu ffyrdd mwy llesol a moesol o hamddena, gan gynnwys llyfrgelloedd a pharciau cyhoeddus. Bydd y cwrs yn olrhain newidiadau yn hamdden a diwylliant cyhoeddus yng nghyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif, gan dalu sylw arbennig i dwf y sinema, ac I’r cysylltiad rhwng chwaraeon a hunaniaeth genedlaethol. Bydd y cwrs yn gosod profiad unigryw Cymru o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Croll, Andy. (2000) Civilizing the Urban. Popular Culture and Public Space in Merthyr, c. 1870-1914. Cardiff UWP
Lambert, W. (1983) Drink and Sobriety in Victorian Wales. Cardiff UWP
Williams, Gareth W. (1998) Valleys of Song. Music and Society in Wales, 1840-1914. UWP
Williams, Gareth W. (1991) 1905 and all that. Essays on Rugby Football, Sport and Welsh Society. Llandysul

Erthygls
Stead, P. (1988) ‘Amateurs and professionals in the cultures of Wales’, in G. H. Jenkins and J. B. Smith (eds.), Politics and Society in Wales, 1840-1922. UWP

Llyfrs
Walton, J. K. and Walvin, J. (eds.). (1983) Leisure in Britain, 1780-1939. Manchester
Walvin, J. (1978) Leisure and Society, 1830-1950.
Meller, H. E. (1976) Leisure and the Changing City, 1870-1914. London

Erthygls
Reid, Douglas A. (2000) ‘Playing and Praying’ in Daunton, Martin (ed.), The Cambridge Urban History of Britain, vol 3.. Cambridge

Llyfrs
Cunningham, H. (1985) ‘Leisure’, in J. Benson (ed.), The Working-Class in England, 1875-1914. London
Holt, R. (1990) Sport and the British. OUP
Holt, R. (ed.). (1990) Sport and the Working Class in Modern Britain. Manchester
Cunningham, H. (1980) Leisure in the Industrial Revolution, c. 1780-1880. London, Croom Helm
Cunningham, H. (1990) ‘Leisure and culture’, in F. M. L. Thompson, The Cambridge Social History of Britain, 1750-1950.
Bailey, P. (1997) Leisure and Class in Victorian England. Routledge