Cod y Modiwl | CY10310 | ||
Teitl y Modiwl | CYMRAEG DDOE A HEDDIW 1 (IAITH GYNTAF) | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Marged E Haycock | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Marged E Haycock | ||
Cyd-Ofynion | I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110,CY10210, CY10410; i'r rhai na fyn hynny: CY10110 neu CY10210 neu CY10410 | ||
Elfennau Anghymharus | CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 Awr Seminarau. | ||
Dulliau Asesu | Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Aseiniad: Traethawd neu Ymarferion | 30% |
1. Byddwch yn gyfarwydd â hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol, a chymdeithaseg iaith.
2. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o'r famiaith Geltaidd, ac am ei pherthynas â'r ieithoedd Celtaidd eraill, ac âr ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill.
3. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o'r bumed/chweched ganrif hyd heddiw.
4. Byddwch wedi ennill profiad o weithio'n annibynnol ar brosiect gwreiddiol ym maes tafodieitheg, ac o gywain gwybodaeth oddi ar lafar gwlad a'i dadansoddi.
5. Byddwch wedi ymgynefino â hanfodion astudio enwau lleoedd, ac fe fyddwch yn gyfarwydd â nifer o'r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.
6. Byddwch yn gyfarwydd â'r prif broblemau sy'n bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg, ac yn gallu trafod yr ymateb i'r problemau hynny.