Cod y Modiwl CY10610  
Teitl y Modiwl LLENYDDIAETH YR UGEINFED GANRIF (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Mihangel I Morgan  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Cymraeg (Ail iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10510, CY10710, CY10810, CY12220; i'r rhai na fyn hynny: CY10510  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr 2 awr   80%  
  Asesiad Semester   Un traethawd   20%  

Canlyniadau dysgu

1. Byddwch chi wedi darllen detholiad o gerddi Cymraeg yr ugeinfed ganrif.

2. Byddwch wedi astudio un gerdd ar ddeg yn fanwl iawn fel y byddwch yn gyfarwydd â phob un ohonynt. Bydd pob un o'r cerddi hyn gan fardd gwahanol a phob un yn wahanol o ran ei harddull.

3. Byddwch yn gyfarwydd â thermau technegol barddoniaeth Gymraeg ac ar ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu adnabod englyn unodl union, cynghanedd sain, draws, lusg a chroes, proest a'r wers rydd.

4. Byddwch yn gallu trafod y cerddi a astudir ac ysgrifennu traethodau byrion arnynt yn Gymraeg.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i ryddiaith a barddoniaeth yr ugeinfed ganrif, gyda rhai gwersi ar feirniadaeth. Darllenir nofelau a storiau a cherddi yn cynrychioli cynnyrch llenorion Cymraeg y cyfnod diweddar.