Cod y Modiwl CY10810  
Teitl y Modiwl SEMINARAU IAITH 2 (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Felicity Roberts, Dr Huw M Edwards, Mr Mihangel I Morgan  
Rhagofynion Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion CY10510 I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yny Gymraeg: CY10610, CY10710, CY12220, i'r rhai na fyn hynny: CY10710  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   18 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   80%  
  Asesiad Semester   Asesiad Diwedd Semester:   20%  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau adferfol yn gywir.

2. Byddwch yn deall sut y mae defnyddio rhagenwau personol yn gywir, rhai blaen, rhai ôl, a rhai mewnol.

3. Byddwch yn deall sut y mae llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir.

4. Byddwch yn deall sut mae llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.

5. Byddwch yn gallu ysgrifennu''n hyderus yn y cywair llenyddol.

Disgrifiad cryno

Trafodaethau ar deithi'r iaith a chyflwyniad i'r defnydd ohoni.