Cod y Modiwl CY11920  
Teitl y Modiwl ASTUDIAETHAU MENYWOD CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged E Haycock  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus HY10420  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr Seminarau.  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau: Asesiad o 2 draethawd   50%  

Canlyniadau dysgu

1. Byddwch yn meddu ar wybodaeth gyffredinol am hanes merched yng Nghymru o''r Oesoedd Canol hyd yr ugeinfed ganrif, ac am y prif ddulliau o ddarlunio merched a gwragedd.

2. Byddwch wedi ennill profiad o weithio''n annibynnol ar brosiect gwreiddiol ym maes hanes llafar, a thrwy hynny ddysgu am hanes a phrofiadau bywyd merched yn eich teulu.

3. Byddwch wedi astudio gwaith rhai awduron benywaidd, a chael cyfle i glywed o lygad y ffynnon am brofiadau awduron benywaidd.

4. Byddwch wedi ennill profiad o astudiaeth ryng-ddisgyblaethol sy''n rhychwantu deunydd a methodoleg sawl gwyddor megis hanes, llenyddiaeth, cymdeithaseg, a chymdeithaseg iaith.

Disgrifiad cryno

Trafodir (i) lle'r ferch ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru gyda sylw arbennig i'r ugeinfed ganrif; (ii) syniadaeth a theor'ru ffeminyddol, ynghyd a hanes a llenyddiaeth merched Cymru; (iii) y newid a ddaeth yn sgil twf y mudiad ffeminyddol ar ddiwedd y chwedegau.