Cod y Modiwl CY30520  
Teitl y Modiwl BARDDONIAETH YR UGEINFED GANRIF  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor John Rowlands  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   75%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 3,000 o eiriau   25%  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gyfarwydd â datblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod yr
ugeinfed ganrif.

2. Byddwch yn gallu gosod y farddoniaeth yn erbyn cefnlen syniadol,
hanesyddol a chymdeithasol y ganrif.

3. Byddwch wedi ymgyfarwyddo ag amrywiaeth eang o fesurau (cynganeddol,
rhydd a phenrhydd), ac ag amrywiaeth o genres (megis yr awdl, y bryddest, y
delyneg, y rhigwm, y gerdd swrrealaidd, etc.)

4. Byddwch yn gallu dadansoddi cerddi unigol gydag arfau miniocaf y beirniad
llenyddol cyfoes.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o brif fannau barddoniaeth y ganrif hon. Rhoddir sylw i bynciau megis y dadeni rhamantaidd ar ddechrau'r ganrif, y tyndra rhwng rhamantiaeth a moderniaeth o'r ugeiniau ymlaen, barddoniaeth ymrwymedig (yn wleidydddol a chrefyddol), yr ail don o foderniaeth yn y pumdegau a'r chwedegau, y dadeni cynganeddol a'r adwaith yn ei erbyn, a thwf barddoniaeth answyddogol. Ceisir gosod y farddoniaeth yn ei chyd-destun ehangach ( yn gymdeithasol, gwleidyddol a syniadol).