Cod y Modiwl | CY31520 | ||
Teitl y Modiwl | CERDDI'R GOGYNFEIRDD C.1100-1370 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Marged E Haycock | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Rhagofynion | CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEY CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwn y 4 modiwl) gyda o leiaf 50% yn modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith | ||
Cyd-Ofynion | CY332020 NEU CY33120 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 11 Awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 11 Awr Seminarau. dosbarth testunol | ||
Dulliau Asesu | Arholiad Semester | 2 Awr | 75% |
Asesiad Semester | Traethodau: 3,000 o eiriau | 25% |
1. Byddwch yn gyfarwydd â''r prif fathau o gerddi a gyfansoddwyd gan y Gogynfeirdd, ac â''r beirdd pwysicaf.
2. Bydd gennych wybodaeth sylfaenol am gefndir hanesyddol a diwylliannol y cerddi, yn enwedig am fywyd y llys yn y ddeuddegfed a''r drydedd ganrif ar ddeg.
3. Bydd gennych ddealltwriaeth o natur a phwrpas gwleidyddol y canu mawl seciwlar, ac o amcanion canu crefyddol y cyfnod, ac fe fyddwch yn medru lleoli''r genres hyn yn nghyd-destun llenyddiaeth Ewrop.
4. Byddwch yn medru darllen detholiad o destunau yn y gwreiddiol (gyda chymorth nodiadau), ac yn medru trosi i Gymraeg Modern rai darnau dethol.
5. Byddwch wedi dysgu sut i ddadansoddi detholiad o gerddi astrus o safbwynt eu hiaith a''u mydr a''u harddull, ac fe fyddwch yn gallu trafod eu gwerth artistig.