Cod y Modiwl CY33120  
Teitl y Modiwl Y CYNFEIRDD DIWEDDAR  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged E Haycock  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10811  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   11 Awr Seminarau. dosbarth testunol  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   75%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 3,000 o eiriau   25%  

Canlyniadau dysgu

1. Byddwch wedi dysgu darllen detholiad o gerddi yn yr iaith wreiddiol (gyda chymorth nodiadau pwrpasol); byddwch yn medru trafod nodweddion llenyddol testunau dethol, ac yn medru lleoli''r testunau yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.

2. Drwy baratoi detholiad o destunau ar gyfer y dosbarth, byddwch wedi ennill profiad o weithio''n annibynnol.

3. Byddwch wedi gwella eich sgiliau cyfieithu drwy lunio aralleiriadau o gerddi''r Cynfeirdd Diweddar mewn Cymraeg Modern.

4. Byddwch wedi dysgu sut i fesur a phwyso ystod o ddadleuon cymhleth.

5. Byddwch yn ymwybodol o ddylanwad barddoniaeth y Cynfeirdd Diweddar ar nifer o awduron ar hyd y canrifoedd.

6. Byddwch yn gyfarwydd â phrif genres y Cynfeirdd Diweddar, ac â''r deunydd sy''n gysylltiedig â ffigurau pwysig megis Myrddin, Taliesin, Llywarch Hen a Heledd.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o farddoniaeth c.700-c. 1100 gan gynnwys y cylchoedd englynol (Canu Heledd, Canu Llywarch Hen), cerddi mytholegol, cerddi am gymeriadau megis Taliesin, Arthur,Myrddin, etc, a deunydd crefyddol ac ysgrythurol.