Cod y Modiwl CY33320  
Teitl y Modiwl BARDDONIAETH Y GANRIF FAWR  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Gruffydd A Williams  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   75%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 3,000 o eiriau   25%  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gyfarwydd â detholiad o waith rhai o brif feirdd y bymthegfed ganrif.

2. Byddwch yn gallu adnabod prif genres barddoniaeth Gymraeg y bymthegfed ganrif.

3. Byddwch yn gallu trafod y farddoniaeth yn gyffredinol yn ei chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

4. Byddwch yn gallu trafod enghreifftiau o farddoniaeth y cyfnod yn fanwl, gan adnabod rhai nodweddion crefft penodol.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o gerddi beirdd yr uchelwyr c.1435-1500. Darllenir detholiad o gerddi o waith beirdd megis Dafydd Nanmor, Guto'r Glyn, Dafydd ab Edmwnd, Lewys Glyn Cothi a Gutun Owain, yn cynrychioli prif genres barddoniaeth y cyfnod.