Cod y Modiwl CY33620  
Teitl y Modiwl RHYDDIAITH Y DADENI  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Bleddyn O Huws  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   75%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 2,000 o eiriau   25%  

Canlyniadau dysgu

1. Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gallu trafod rhai o brif gyflawniadau'r dyneiddwyr Cymraeg a byddant yn dra ymwybodol o bwysigrwydd y cyflawniadau hynny.

2. Byddant yn gallu trafod y syniadau newydd ym maes dysg a chrefydd a ddaeth i Gymru o'r Cyfandir yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

3. Byddant yn gallu trafod y prif gerrig milltir yn hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg ac yn gallu trafod yn feirniadol gyfraniad rhai unigolion tuag at y gwaith cyfieithu.

4. Byddant yn gallu trafod gwaith rhai o'r dyneiddwyr Cymraeg gan ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ragymadroddion y dyneiddwyr i'w gweithiau ynghyd ag astudiaeth o gynnrych llenyddol dyneiddwyr penodol megis William Salesbury, Gruffudd Robert a William Morgan.