Cod y Modiwl CY33920  
Teitl y Modiwl LLENYDDIAETH GLASUROL A PHOBLOGAIDD, 1740-1800  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Huw M Edwards  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   Seminarau. Gall rhai dosbarthiadau fod ar ffurf seminar/dosbarth testunol, gan ddibynnu ar y niferoedd.  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   75%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 2,000 - 2,500 o eiriau   25%  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gyfarwydd â rhai o'r prif ddatblygiadau ym maes llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif.

2. Byddwch yn gallu trafod enghreifftiau o lenyddiaeth werinol yn ogystal â llenyddiaeth fwy dysgedig y cyfnod yn ddadansoddol a beirniadol.

3. Byddwch yn gallu gosod y testunau llenyddol yn eu cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol.

4. Byddwch yn gallu cymharu awduron â'i gilydd ac adnabod y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhyngddynt.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o lenyddiaeth a diwylliant Cymru rhwng 1740 a 1800. Caolbwyntir ar y gwrthdaro a ddatblygodd yn ystod y cyfnod hwn rhwng y traddodiad gwerinol poblogaidd a'r glasuraeth newydd.