Cod y Modiwl CY34020  
Teitl y Modiwl LLENYDDIAETH Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Huw M Edwards  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   75%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 2,500 o eiriau   25%  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gyfarwydd â rhai o'r prif ddatblygiadau ym maes llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

2. Byddwch yn gallu trafod enghreifftiau o farddoniaeth ac o ryddiaith y cyfnod yn ddadansoddol ac yn feirniadol.

3. Byddwch yn gallu gosod y testunau llenyddol yn eu cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol.

4. Byddwch yn gallu cymharu awduron â'i gilydd ac adnabod y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhyngddynt.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o hanes llenyddiaeth y ganrif ddiwethaf. Rhoddir sylw arbennig i awdlau a thelynegion y cyfnod, i'r arwrgerdd ac i'r nofel. Ymhlith yr awduron a astudir y mae Dafydd Ddu Eryri, Eben Fardd, Alun, Islwyn, Ceiriog, Daniel Owen ac Emrys ap Iwan.