Cod y Modiwl CY34120  
Teitl y Modiwl YSGRIFENNU CREADIGOL  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor John Rowlands  
Semester Available semesters 1 and 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr Mihangel I Morgan  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Awr Seminarau. + cyfarwyddyd unigol yn o^l y galw  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Asesiad Parhaus: Cyfrol o lenyddiaeth wreiddiol, a arholir gan 3 aelod o'r staff (i'w chyflwyno erbyn diwedd Semester 1, lefel3)   100%  

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch wedi derbyn hyfforddiant ar wahanol fathau o ysgrifennu, yn farddoniaeth, yn rhyddiaith greadigol ac yn sgriptio.

2. Byddwch wedi arbrofi â'r ffurfiau hyn er mwyn datblygu eich doniau creadigol cynhenid.

3. Byddwch wedi elwa ar drafod eich gwaith yn adeiladol gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr.

4. Byddwch wedi cyflwyno cyfrol o waith gwreiddiol wedi ei golygu, ei theipio a'i rhwymo.

Disgrifiad cryno

Cynigir hyfforddiant ar wahanol fathau o ysgrifennu, er mwyn meithrin a disgyblu doniau creadigol cynhenid. Canolbwyntir ar ysgrifennu a dadansoddi barddoniaeth a rhyddiaith, ar addasu gweithiau ar gyfer radio a theledu, ac ar baratoi sgriptiau i'w darlledu.