Cod y Modiwl | CY34220 | ||
Teitl y Modiwl | CREFFT ADFER IAITH | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Felicity Roberts | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10711 + CY10810 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 11 Awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 11 Awr Seminarau. lleiafswm o 11 awr | ||
Dulliau Asesu | Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Adroddiad Prosiect: 4,000 o eiriau | 30% |
1. Bydd gennych ymwybyddiaeth o’r elfennau arwyddocaol yng nghefndir yr iaith Gymraeg a arweiniodd at y sefyllfa ieithyddol sydd ohoni yng Nghymru heddiw.
2. Bydd gennych wybodaeth am sefydliadau a mudiadau yn ein cymdeithas a’r cyfraniad a wnânt at geisio cynnal a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
3. Byddwch yn gallu trafod y seicoleg sydd yn bwysig wrth geisio denu pobl i ddysgu Cymraeg ac i ennyn y Cymry Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg yn gynyddol.
4. Bydd gennych wybodaeth sylfaenol am fethodoleg dysgu Cymraeg fel ail-iaith, a’r egwyddorion a ystyrir yn bwysig i’w dilyn i gael y llwyddiant mwyaf posibl yn y gwaith.
5. Byddwch yn gallu cymharu sefyllfa ieithyddol Cymru â gwledydd eraill sydd yn ymdrechu i adfer neu i gynnal eu hiaith genedlaethol, ochr yn ochr â iaith fyd-eang.
6. Byddwch wedi dechrau dysgu sgiliau ymchwilio ym maes Cymdeithaseg Iaith gan ddadansoddi data a gesglir, a gosod yr wybodaeth ar ffurf adroddiad.
1. Marchnata iaith a denu pobl ati
2. Cyflwyno iaith a'i dysgu yn uniongyrchol i eraill
3. Ehangu parthau'r iaith a hyrwyddo'r defnydd ohoni gan unigolion a sefydiadau.