Cod y Modiwl CY34420  
Teitl y Modiwl HEN GYMRAEG A CHYMRAEG CANOL  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhisiart J Hincks  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   100%  

Canlyniadau dysgu

1. Dylai'r myfyriwr ddeall prif nodweddion orgraffyddol, gramadegol a chystrawennol Hen Gymraeg a Chymraeg Canol.   

2. Dylai fod yn medru trafod y rhain yn ddeallus, ac amgyffred y modd y mae'r iaith wedi newid drwy'r canrifoedd.

3. Dylai fedru brasegluro sut y datblygodd y Gymraeg o'r Frythoneg.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw cyflwyno Hen Gymraeg a Chymraeg Canol a dangos nodweddion orgraff, ffurfiant a chystrawen yr iaith yn y ddau gyfnod. Gall fod o ddiddordeb i'r sawl sy'n astudio Hanes yr Iaith (CY34320) gan ei fod fel petai yn rhagymadrodd i'r modiwl hwnnw. Canolbwyntir yn bennaf ar astudio nifer o destunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, ond edrychir hefyd ar ddatlygiad yr iaith o'r Frythoneg ac ar y problemau sy'n codi wrth astudio hanes dechrau ysgrifennu'r Gymraeg. Disgwylir i'r sawl sy'n dilyn y modwil ddarllen yr ymdriniaethau safonol a'r testun(au) gosod Hen Gymraeg.